Be' wnaeth i'r gweinidog Emyr Owen ddifrodi cyrff y meirw?
- Cyhoeddwyd
Nadolig 1984 arestiwyd gweinidog yng nghefn gwlad Cymru mewn achos na welwyd ei fath o'r blaen, ac un fyddai'n gwneud y penawdau ar draws y byd. Cyhuddwyd Y Parchedig Emyr Owen o dorri organau rhywiol cyrff meirw oedd yn disgwyl i gael eu claddu mewn capeli dan ei ofal.
Mae rhaglen newydd ar S4C, Y Parchedig Emyr Ddrwg, yn gobeithio taflu goleuni newydd ar y stori a cheisio deall beth arweiniodd at rywun i wneud y fath beth.
Roedd y cliw wnaeth arwain yr heddlu at y gweinidog mewn lle amlwg yn y diwedd - yn Y Beibl.
Ers wythnosau roedd ymchwiliad ar y gweill ar ôl i nifer o bobl yn ardal Meirionnydd a thu hwnt dderbyn llythyrau cas, dienw yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 1984.
Digon diniwed oedd rhai, fel cyhuddo organydd capel o fod yn chwaraewr gwael, o'u cymharu gyda negeseuon sinistr eraill - yn cynnwys llythyr i un ddynes yn bygwth lladd ei wyres.
Gyrrwyd un, wedi ei bostio ym Mhorthmadog, i Lerpwl at y Parchedig D Ben Rees yn ei gyhuddo'n ddi-sail o werthu llyfrau mewn capeli ar y Sul; aeth un arall at yr awdur Eigra Lewis Roberts, yn ymateb i gyfraniad ganddi ar raglen radio.
"Dwi'n cofio roedd Mam yn fyw adeg hynny ac roedd hi wedi cynhyrfu achos roedd iaith y llythyr yma yn ych a fi go iawn," meddai Eigra Lewis Roberts yn rhaglen ddogfen S4C Y Parchedig Emyr Ddrwg. "Maen nhw'n galw'r llythyrau yn Saesneg yn poison pen letters ac roedda chi'n teimlo'r gwenwyn yma ac roedd hynny'n gwneud i chi deimlo ychydig yn sâl yn ei ddarllen o."
Rhoddodd yr awdur y llythyr i'r heddlu a chario ymlaen gyda'i bywyd, ond megis dechrau oedd y stori.
Cliw mewn un llythyren
Roedd ei llythyr yn un o nifer o rai tebyg oedd wedi dod i law yr heddlu, a chafodd y ditectif cwnstabl Gwyn Roberts, oedd wedi ei leoli yn Nolgellau ar y pryd, y dasg o geisio dod o hyd i'r person oedd yn gyfrifol. Byddai'n dod o hyd i lawer mwy na hynny yn y pen draw.
Dau beth ddaeth i'r amlwg i'r ditectif wrth ddarllen y llythyrau: roedd yr awdur yn adnabod ardaloedd Tywyn a Blaenau Ffestiniog yn dda, ac roedd y llythyren 't' wedi ei sgwennu mewn ffordd anghyffredin.
Fe ddechreuodd ar y broses lafurus o fynd drwy lawysgrifau pobl yn yr ardal gan chwilio am unrhywbeth oedd yn debyg i'r llythyrau cas. Ar ôl archwilio 6000 o eisiamplau, doedd o ddim nes i'r lan. Yna fe gafodd lwc wrth sgwrsio gydag amaethwr lleol.
Eglurodd: "Nes i ddangos iddo fo y letter 'T' yn un o'r llythyra, anfonodd am Destament Newydd a'i rhoi o i fi. Cymerais y Testament a'i agor a ffeindio tu mewn roedd llawysgrifen yn derbyn y dyn i'r capel lleol, a be' oedd o wedi sgwennu oedd y letter 'T'.
"Hwn oedd y llythyren o'n i wedi bod yn edrych amdano ers yr holl amser.
"Enw'r awdur oedd y Parchedig Emyr Owen."
Gweinidog yn ardal Tywyn oedd Emyr Owen, gyda gofalaeth am sawl capel ers symud yno yn 1976. Bu'n gaplan i'r Uchel Siryf yn 1982 hefyd ac roedd yn uchel ei barch gan nifer yn yr ardal.
Arestio'r gweinidog
Newidiodd hynny ar nos Sadwrn, 22 Rhagfyr, pan aeth y ditectif cwnstabl Gwyn Roberts draw i'w gartref i'w holi. O fewn dim i gerdded i mewn i'w dŷ yn Nhywyn roedd yn gwybod ei fod wedi cael y dyn iawn.
"Aethon ni fewn i'r lounge ac ar y bwrdd roedd dwsinau o gardiau Dolig - envelopes wedi cael eu addressio," meddai. "Edrychais yn sydyn ac roedd letter 'T' i weld ar ddau ohonyn nhw."
Gwadu gyrru unrhyw lythyrau cas wnaeth Emyr Owen, ond ar ôl holi ymhellach a dangos y llawysgrifen yn y Beibl iddo, fe gyfaddefodd i yrru'r holl lythyrau gan ddweud nad oedd yn gwybod pam wnaeth y ffasiwn beth a'i fod yn wael ar y pryd.
Fe allai hynny fod wedi bod yn ddiwedd ar y mater, tan i Gwyn Roberts ofyn am gael gweld yr ystafell lle'r oedd o'n sgwennu'r llythyrau.
Difrodi cyrff
Yn ystafell wely'r gweinidog, lle'r oedd yn cadw copïau o'i holl bregethau a llyfrau'r capel, roedd bocs.
Meddai Gwyn Roberts: "Yn y bocs sgidia roedd 'na handcuffs, screwdriver, llathen o raff, dental extractors - dau bar, medical forceps, rasal a manylion eraill.
"Yn y wal o'm mlaen roedd drws cwpwrdd. Nes i agor hwnna a thynnu allan magazines dynion noethlymun... o'n i di edrych ar y llyfrau oedd ganddo fo - bob un am ryw, human sacrifices, cannibalism, bizzare sex acts."
Ond nid dyna'r cyfan. Ar y ddesg roedd tri bocs o sleids ffotograffau, a phan roddodd un sleid i'r golau fe gafodd y ditectif ei syfrdanu o weld y ddelwedd - organ rhywiol dyn wedi ei dorri o'r corff, ac wedi ei osod ar blât.
Lluniau postmortem oedden nhw, meddai'r gweinidog, ond ar ôl holi ymhellach fe ddaeth y gwir.
"Dyma Emyr yn cyfaddef ei fod o wedi torri organau rhywiol oddi ar dri chorff oedd yn disgwyl angladd yn y capel," meddai Gwyn Roberts.
"Mae 'na rumours wedi bod bod o wedi piclo nhw mewn jars a rhyw lol felly ond rumours oedden nhw - doedd o ddim. Ddaru fo ddeud bod o wedi eu rhoi nhw allan i'r seagull, un arall wedi ei losgi ac un arall roedd o wedi taflu i'r môr."
Wedi iddo gael ei gyhuddo'n swyddogol yn y llys ynadon ar noswyl 'Dolig, fe dorrodd y stori dros yr ŵyl.
Doedd neb wedi clywed am y fath achos o'r blaen, ac un o ddadleuon cynnar cyfreithiwr Emyr Owen oedd nad oedd difrodi corff yn bodoli fel trosedd yn ôl y gyfraith. Yn y pendraw, pledio'n euog wnaeth Emyr Owen a chafodd bedair blynedd o garchar.
'Achos erchyll'
Dwy ar bymtheg oed oedd yr actor Richard Elfyn ar y pryd, ac mae'n cofio'r stori'n iawn. Roedd ei dad yn blismon yn yr ardal ac yn adnabod Gwyn Roberts yn dda, ac mewn cyd-ddigwyddiad llwyr Richard Elfyn gafodd ei gastio i chwarae rôl y ditectif cwnstabl yn y rhaglen ddogfen Y Parchedig Emyr Ddrwg.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roedd fy nhad yn blismon ym Mhwllheli a ro'n i'n mynd i'r orsaf heddlu i'w weld o yn aml pan o'n i'n blentyn, ac roedd Gwyn yno yn aml felly ro'n i'n adnabod Gwyn, y cymeriad dwi'n chwarae, ers blynyddoedd. Mae o'n dipyn o gymeriad a 'da ni'n ffrindiau.
"Dwi'n cofio Dad yn siarad am yr achos. Ro'n i'n brysur fel actor newydd yn dechrau ar fy ngyrfa ac ar daith efo cwmni theatr Cymru ar y pryd - ond dwi'n cofio Dad yn siarad amdano yn y tŷ. Nid achos fy nhad oedd o, ond roedd o'n adnabod Gwyn yn dda a Gwyn yn siarad amdano.
"Do'n i methu credu'r peth - ond dwi'n siarad efo lot o Gymry o'r gogledd a sgeno nhw ddim syniad o'r stori. Mae o fel bod o wedi ei sgubo o'r neilltu - roedd o mor afiach be' oedd o wedi gwneud doedd pobl ddim eisiau siarad amdano. Roedd o mor erchyll."
Un o Flaenau Ffestiniog oedd Emyr Owen yn wreiddiol, wedi ei fagu yno cyn yr Ail Ryfel Byd gan ei fam a'i nain ar ôl i'w dad gael ei ladd mewn damwain yn Awstralia ar ôl mynd yno i'r gweithfeydd aur.
Ar ôl gadael ysgol yn 14 oed, aeth i weithio i chwarel yr Oakley am 10 mlynedd cyn mynd i'r coleg diwinyddol ac i'r weinidogaeth.
Ar ôl gweithio yn ne Ceredigion, symudodd i ddinasoedd Coventry a Lerpwl, cyn mynd i weithio i Feddgelert ac yna Tywyn yn 1976. Bu hefyd yn byw yng Nghaernarfon ac yn ddiweddarach i Bae Penrhyn, lle fu farw yn Ionawr 2001, yn 78 oed.
Fel rhai o gyfranwyr y rhaglen ddrama-ddogfen, mae Richard Elfyn yn credu bod cyfuniad o dyfu fyny fel person hoyw mewn cymdeithas mor grefyddol wedi cael effaith ar Emyr Owen.
Meddai: "Dwi'n gwybod bod ei rywioldeb yn rhywbeth roedd o falle yn teimlo cywilydd amdano fel rhywun oedd yn credu yn yr efengyl, a doedd y ffordd roedd o'n teimlo am ei rywioldeb ddim yn cyd-fynd efo'r efengyl hynny.
"Mae unrhywun sy'n cuddio ei wir bersonoliaeth yn mynd i gael problem - fedri di ddim gwadu pwy wyt ti am byth ond mae'r ffordd mae'r problemau yn codi wedyn yn gallu creu problemau enbyd ac mae'n amlwg efo fo mai dyna ddigwyddodd, ond does neb yn gwybod be' oedd yn mynd ymlaen yn ei ben o achos waeth be' ydi dy rywioldeb dwyt ti ddim yn gwneud be' wnaeth o."
Dau Emyr - y da a'r drwg
Roedd Emyr Owen ei hun wedi dweud mewn cyfweliadau gyda'r heddlu a seicolegwyr ei fod yn credu bod dwy ran i'w bersonoliaeth - Emyr Dda, y gweinidog fyddai'n pregethu ar y Sul, ac Emyr Ddrwg, y person oedd yn gyfrifol am y llythyrau cas a niweidio'r cyrff.
Mewn cyfweliad ar S4C yn 1992, eglurodd bod lleisiau wedi dweud wrtho fod angen iddo dorri organau rhywiol tri dyn am resymau moesol/grefyddol.
Meddai: "Ro'n i'n clywed am y plant yma yn cael eu hymosod arnyn nhw, priodasau yn cael eu torri, creulonderau diddiwedd ac yn y blaen a ro'n i, yn anghywir efallai, ro'n i yn mynd a'r cyfan yma yn ôl, ro'n i'n credu mai gwreiddia'r holl bethau i gyd oedd yr organau rhywiol... ro'n i yn credu hynny... yr unig ffordd i wneud hyn yn glir oedd cael fy revenge ar yr organau rhywiol."
Angen deall y cyfnod
Bu John Sam Jones yn ymweld ag Emyr Owen yn y carchar am gyfnod o flwyddyn a hanner fel rhan o'i rôl fel caplan Cymry'r Glannau. Mae'n dweud ei bod yn bwysig deall y math o gymdeithas grefyddol y magwyd o ynddi.
Mewn cyfweliad ar raglen Bwrw Golwg, fydd i'w chlywed ar Radio Cymru am 1230 dydd Sul 30 Ionawr, mae'n egluro ei bod yn amlwg wrth sgwrsio gydag o yng ngharchar Lancaster ei fod o'n ddyn sâl.
"Fel dyn hoyw, ond dyn hoyw oedd yn cuddio'r ffaith ar y pryd, ro'n i yn teimlo mai sâl iawn oedd Emyr Owen yn hytrach na bod o wedi troseddu o ryw wirfodd neu o ryw syniad bod o'n ddyn drwg," meddai. "Roedd o yn ddyn wedi ei fagu mewn cartref Cristnogol a'r ffydd yn bwysig ond bod y traddodiad eglwysig oedd o wedi tyfu fyny ynddo fo yn credu bod cyfunrywiol yn rhywbeth drwg iawn - y naratif oedd mad, bad and sad.
"Dwi'n credu roedd Emyr wedi amsugno hynny - roedd o wir yn teimlo bod o'n ddyn drwg, roedd o wir yn teimlo bod yr elfen o'r diafol ynddo fo a dwi'n credu bod o erioed wedi dygymod a'r ffaith ei fod o yn ddyn hoyw nag erioed wedi derbyn hynny fel rhan ohono fo.
"Roedd ganddo fo cymaint o atgasedd tuag ato fo ei hun roedd o'n cymryd hynny allan ar y cyrff yma."
Fydd neb byth yn gwybod yn iawn beth arweiniodd i'r gweinidog wneud y fath weithred, ond mae'r dyn wnaeth ddal Emyr Owen yr holl flynyddoedd yn ôl yn ddigyfaddawd.
"Oedd o'n sâl? Nagoedd," meddai'r cyn-dditectif Gwyn Roberts.
"Yn bersonol s'gennai ddim piti drosto fo."
Y Parchedig Emyr Ddrwg, nos Fercher2 Chwefror, am 2100, ac ar S4C Clic a'r BBC iPlayer
Straeon eraill ar Cymru Fyw: