'Codi'r gwastad': Beth mae'n ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Newid bywydau drwy rannu cyfoeth a chyfleodd ar draws y Deyrnas Unedig, dyna nod uchelgeisiol llywodraeth Boris Johnson yn eu cynllun 'codi'r gwastad' (levelling up).
Mae ei lywodraeth yn addo y bydd yna fwy o arian i ddatblygu technoleg newydd a band eang gwell yn helpu Cymru i ffynnu.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin - sy'n disodli cymorth ariannol Ewropeaidd - yn cael ei ddatganoli i ardaloedd ar draws Cymru.
Dywed Llywodraeth y DU mai nod ei hagenda codi'r gwastad yw lleihau anghydraddoldebau o fewn y DU.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Cymru ar ei cholled yn ariannol ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Beth yw 'lefelu i fyny'?
Codi'r gwastad yw'r addewid wnaeth Boris Johnson i bleidleiswyr yn yr hen seddi Llafur - fel y rheiny yng ngogledd ddwyrain Cymru - wnaeth droi at y Ceidwadwyr yn etholiad 2019.
Dywedodd y byddai ei lywodraeth yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei rannu yn decach ar draws y DU er mwyn adfywio trefi a dinasoedd a chynnig gwell swyddi a chyfleoedd i'r bobl sy'n byw yno.
Mae 'na Gronfa Codi'r Gwastad, sy'n cynnig £4.8bn i wella trefi, trafnidiaeth leol, gwella atyniadau twristiaeth. Bydd 10 prosiect yn cael arian o hwn i ddechrau.
Ond mae'r llywodraeth yn pwysleisio bod hwn yn gynllun hir dymor ar gyfer pob adran o'r llywodraeth.
Maen nhw'n cyfaddef bod y nod yn uchelgeisiol, ond wedi problemau'r pandemig, a gyda chostau byw yn cynyddu, mae 'na bwysau sylweddol ar Lywodraeth y DU i gyflawni.
Beth sydd wedi'i gyhoeddi?
Mae'r cynlluniau yn cynnwys yr addewid i wella bywydau pobl ar draws y DU erbyn 2030, a'r ymrwymiad i wella lles ymhob ardal o'r pedair gwlad.
Mae'r llywodraeth eisiau cau'r gagendor rhwng y dinasoedd cyfoethocaf a'r tlotaf.
Mae'n addo band eang cyflym a chyswllt 4G i'r DU gyfan, a chyswllt ffôn 5G i ran fwyaf o'r boblogaeth.
Bydd cynnydd hefyd o 40% ym muddsoddiad y llywodraeth mewn ymchwil technolegol yng Nghymru.
Mae nifer o'r addewidion yn ymwneud â materion sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru - fel iechyd ac addysg.
Mae Michael Gove, y gweinidog ar gyfer codi'r gwastad, wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn awgrymu y dylid creu corff er mwyn gweithio gyda'i gilydd i wella cyfleoedd ar gyfer pobl Cymru.
Beth yw'r feirniadaeth?
Mae gweinidogion Llafur Cymru wedi cyhuddo Boris Johnson a'i lywodraeth o sathru ar ddatganoli drwy wario arian mewn meysydd sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Ac mae 'na gyhuddiad nad yw'r llywodraeth Geidwadol wedi cadw at eu haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Cymru yn derbyn oddeutu £375m y flwyddyn.
Yn ôl y Gweinidog Economi Vaughan Gething, "mae hi'n glir bod Cymru yn cael ei gadael gyda llai o ddweud, dros lai o arian".
"Lefelu lawr nid lefelu fyny yw hyn," meddai.
Beth yw'r Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Tra'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd fe dderbyniodd Cymru arian i helpu ei hardaloedd tlotaf, mae'r arian yna yn dod i ben yn raddol gan orffen yn llwyr y flwyddyn nesaf.
Wedi Brexit fe addawodd Llywodraeth y DU y byddai'n cael ei ddisodli gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae yna £2.6bn ar ei gyfer, ond dyw hi ddim yn glir sut y bydd yn gweithio.
Mae'r cynllun yn dweud y bydd yn cael ei ddatganoli i ardaloedd lleol yng Nghymru - sy'n awgrymu mai cynghorau yn hytrach na Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud cais am yr arian.
Beth yw'r prosiectau yng Nghymru?
Mae 10 prosiect yng Nghymru yn derbyn arian o ganlyniad geisiadau gan awdurdodau lleol Cymru:
£16.7m ar gyfer prosiect llwybr cerdded a beicio Dyffryn Tywi;
£10.8m tuag at adfywio Hen Goleg, promenâd a harbwr Aberystwyth;
£17.7m i gefnogi adfywio Hwlffordd, gan gynnwys gwaith gwella ar gastell y dref;
£15.4m i adfer rhannau o Gamlas Maldwyn;
£6.9m ar gyfer prosiectau seilwaith yn Llandrindod ac Aberhonddu;
£11.4m i ddeuoli'r A4119 yng Nghoed-elái;
£5.4m ar gyfer Canolfan Gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd;
£3.6m ar gyfer cyfnewidfa bysiau a threnau yn y Porth;
£13.3mi hybu twristiaeth, gan gynnwys llwybr cerdded newydd yn yr ardal o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte, sy'n safle Treftadaeth y Byd
Hefyd, sicrhaodd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro £19.9m i ddatblygu canolbwyntiau canol trefi yng Nghaerfyrddin a Phenfro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021