Y cockapoo gyda'r swydd i roi gwên ar wynebau'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Dau swyddog yr heddlu gyda ci bach brownFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw bydd Nansi yn codi gwen a chynnig ysgafnder i swyddogion

Nansi, y cockapoo 13 wythnos oed yw aelod diweddaraf o dîm Sarjant Non Edwards. Mae hi wedi cychwyn ar ei gwaith fel ci Ymrwymiad Cymunedol a Lles cyntaf Heddlu Gogledd Cymru.

Mi fydd Nansi yn gweithio gyda Tîm Plismona Cymdogaeth Caernarfon a Bangor gan dreulio digon o amser yn y gymuned ac fel cymorth i swyddogion.

Disgrifiad,

Nansi y Ci

"Y bwriad ydi i drio rhoi gwen ar wynebau plismyn ar adega', achos 'da ni'n neud job eithaf anodd," meddai Sarjant Non Edwards. "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig i ni feddwl am lles swyddogion, achos ma' nhw yn delio hefo lot o betha' reit anodd yn ystod eu shiffts ac felly y gobaith ydi fod Nansi yn dod a dipyn bach o ysgafnder i betha' pan mae nhw'n dod yn ôl i'r orsaf."

Rhan o gynllun peilot ydi Nansi ar hyn o bryd, ac mae Heddlu Gogledd Cymru'n gweithio'n agos gyda Oscar Kilo 9, "mudiad ydi nhw hefo cŵn lles a mae na bron i ddeugain o wasanaethau heddlu a tân yn perthyn i'r mudiad yna trwy Brydain Fawr. Mae ganddyn nhw bron iawn i ddeugain o gŵn yn perthyn, felly da ni'n dilyn nhw mewn ffordd."

Mae Nansi wrthi'n derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd a bydd hi'n cael ei asesu gan y mudiad i gael ei hadnabod fel ci lles.

"Mae hi wedi setlo," meddai Non. "Mae hi'n gweithio lot yn y ddalfa ac mae hi wrth ei bodd cael mynd lawr i fan 'na, cael mynd rownd y celloedd, gweld pwy sydd yno, busnesu."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nansi, fydd yn rhan o brosiectau yn y gymuned yn ogystal â bod yn gi lles i'r swyddogion

Cynnig cymorth i swyddogion fydd un o brif amcanion Nansi, ond nid oes cynlluniau ffurfiol yn eu lle i alluogi hynny, yn hytrach bod yno i gynnig cysur a chwmni mae hi.

'Mae hi yn helpu pobl ac mae hi yn dod a gwen ar eu gwynebau nhw'

Meddai Non: "Mae'r ddwy flynedd yma wedi bod yn galed iawn, mae'r swyddogion ma i gyd wedi dod i mewn bob dydd a gweithio yn y rheng flaen fel sawl gwasanaeth arall, a 'da ni'n trio'n gora rŵan i edrych ar les swyddogion a iechyd meddwl."

"Weithiau mae nhw 'nghlwm yn y swyddfa, yn yr orsaf gyda gwaith i'w wneud a ma' hi jysd yn g'neud iddyn nhw stopio am funud a cymryd pum munud i ffwrdd oddi wrth y cyfrifiadur, ac ella mynd ar lawr jysd i chwara efo hi am bum munud."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nansi gyda Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu

"Nes i rioed feddwl bo' hi'n mynd i 'neud gymaint o wahaniaeth, a gymaint o bobl oedd ella ddim yn siwr o'r syniad yn y lle cynta', ma' nhw llwyr wedi newid ei meddyliau ar ôl cyfarfod Nansi bellach."

Y cam nesaf fydd mynd a Nansi allan i'r gymuned, rhywbeth oedd y tîm yn edrych ymlaen yn arw i'w wneud gan eu bod nhw'n ffyddiog y byddai pobl Caernarfon a Bangor "wedi mopio efo'i." Mi fydd Nansi hefyd yn ymweld ag ysgolion a bod yn rhan o brosiectau yn y gymuned.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Gobaith mawr Non yw bydd y cynllun peilot gyda Nansi yn llwyddiant mawr ac y bydd yn cael ei ehangu yn y dyfodol.

Gwaith cŵn lles lluoedd eraill yn cynnig gobaith

"Pan da chi'n sbio ar rhywun fel heddlu West Sussex, mae ganddyn nhw tua saith ci a Heddlu De Cymru, mae ganddyn nhw ddau. Y gobaith ydi, os di Nansi yn profi i fod yn llwyddiant, fel dwi'n reit ffyddiog y bydd hi, bod Heddlu Gogledd Cymru yn mynd i edrych ar ella cael mwy.

"Mai'n lot o waith, ci bach ydi hi, ond dwi'n gwbod bod hi'n mynd i 'neud lot o waith da."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Hefyd o ddiddordeb: