Troi hen synagog yn ganolfan Iddewig ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i droi hen synagog ym Merthyr Tudful yn Ganolfan Dreftadaeth Iddewig gam yn nes.
Fe gafodd yr adeilad ar Heol Bryntirion ei brynu gan Y Sefydliad Treftadaeth Iddewig yn 2019.
Erbyn hyn, mae'r Sefydliad yn bwriadu gwneud cais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i'w droi'n ganolfan i ddathlu ac arddangos treftadaeth Iddewig.
Cafodd gwaith atgyweirio brys, ariannwyd yn rhannol gan y corff treftadaeth CADW, ei wneud y llynedd.
Cafodd yr adeilad rhestredig neo-gothig ei ddylanwadu gan rai eraill o'r cyfnod yn yr ardal, megis Castell Coch a Chastell Cyfarthfa.
"Mae'r adeilad yn eithriadol," meddai Michael Mail, Prif Weithredwr y Sefydliad Treftadaeth Iddewig.
"Yn gorfforol ac yn hanesyddol, mae'n bwysig iawn oherwydd dyma'r adeilad Iddewig pwrpasol hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.
"Mae wedi bod yn wag ers 2004, felly mae'n dirywio: mae twll yn y to ac o ganlyniad mae'n fregus.
"Os wnawn ei adael yn hirach mae'n bosib na fydd yno lawer mwy," meddai.
Ym 1978 cafodd yr adeilad ei restru fel Gradd II* ond fe gaeodd y synagog yn 1983 ac fe gafodd ei israddio i Radd II.
Ers hynny mae'r adeilad wedi'i ddefnyddio fel Canolfan Gristnogol a champfa, ond caeodd y drysau am byth yn 2004.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i'w drawsnewid yn fflatiau.
Mae'r Sefydliad am iddo ddod yn ganolfan genedlaethol Cymru ar gyfer hanes Iddewig. Amcangyfrifir y bydd y gost o ddylunio ac addasu'r adeilad tua £4m.
"Rydym yn cydnabod fod hynny'n swm sylweddol o arian," meddai Michael Mail.
"Rydym yn gobeithio gwneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am tua 75% o hynny, ond rydym hefyd yn gofyn am gyfraniadau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill a dyngarwyr unigol hefyd.
"Fel y gwyddoch fe lwyddon ni i godi'r arian i brynu'r adeilad yn 2019 ac roedd nifer ohonyn nhw'n dod o'r Cymry Iddewig alltud ar wasgar ar draws y byd," meddai.
'Trysor go iawn'
Nid hwn fyddai'r hen addoldy cyntaf ym Merthyr Tudful i gael ei ddefnyddio unwaith eto.
Canolfan Soar ydi cartref Menter Iaith Merthyr, sy'n cynnwys theatr a chaffi. Ail-agorodd yn 2011 ar ôl chwe blynedd o godi arian.
"Mae'r synagog yn adeilad hynod ddiddorol," meddai Lis McLean, Prif Weithredwr Canolfan Soar.
"Mae'n edrych yn ofnadw ar hyn o bryd, ond mae gan yr adeilad ei hun bethau pensaernïol unigryw sy'n hynod ddiddorol.
"Mae'n drysor go iawn a byddai'n drychineb colli'r adeilad, felly rydw i wir wedi fy ysbrydoli gan y ffaith bod y prosiect hwn yn mynd i ddigwydd ym Merthyr.
"Mae'n wych," meddai.
Ganrif yn ôl, roedd 6,000 o Iddewon yng Nghymru, gyda'r ffigwr bellach yn y cannoedd a llawer yn eu 80au hwyr a'u 90au.
Denodd y Chwyldro Diwydiannol weithwyr o Rwsia ac ardaloedd eraill yn nwyrain Ewrop ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd cymunedau llewyrchus ym Merthyr Tudful, Brynmawr, Aberdâr a Phontypridd.
Daeth busnesau Iddewig ym Mhontypridd mor llwyddiannus fel bod stryd fawr y dref yn cael ei hadnabod fel 'Jewish Street'.
Ym 1919, roedd gan Ferthyr Tudful cymuned o 400 o Iddewon, gan ostwng i 175 ym 1937, a dim ond 20 erbyn 1979.
Mae ystadegau swyddogol diweddaraf yr ONS yn awgrymu mai dim ond 4 o bobol Iddewig oedd yn y bwrdeistref yn 2011.
Oherwydd dirywiad difrifol yn yr economi ddiwydiannol, a'r cynnydd mewn diweithdra symudodd lawer o Iddewon i drefi a dinasoedd eraill oedd yn cynnig pethau doedd Merthyr ddim.
'Cam hynod bwysig'
Mae'r Athro Nathan Abrams o Fangor wedi ysgrifennu am gynrychiolaeth Iddewig mewn ffilmiau a dywed fod Iddewon wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd diwylliannol, masnachol, dinesig a gwleidyddol Cymru.
"Rwy'n hapus iawn ag agwedd gynhwysol y Sefydliad," meddai.
"Nid dim ond am Ferthyr fydd hyn, na chwaith De Cymru yn unig, ond am Iddewon yng Nghymru gyfan.
"Rwy'n meddwl bod hwn yn gam cyntaf hynod bwysig er mwyn dangos hanes Iddewig drwy Gymru.
"Fy ngobaith yw y bydd gennym ni, un diwrnod, rhywbeth tebyg yng Ngogledd Cymru, fel yr Imperial War Museum North ym Manceinion," meddai'r Athro Abrams.
Fel rhan o ddatblygu'r prosiect, mae'r Sefydliad wedi lansio gwefan bwrpasol., dolen allanol
Y nod yw agor y ganolfan erbyn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019