Dyn 70 oed wedi marw ar ôl ymosodiad ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Heol Dan Y BrynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Dan Y Bryn, Port Talbot, fore Iau

Mae'r heddlu wedi arestio dyn ar ôl ymosodiad ar ddyn 70 oed fu farw o'i anafiadau.

Bu farw'r dyn o ardal Taibach, Port Talbot, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod mewn adeilad ar Heol Dan Y Bryn am 11:40 fore Iau.

Mae dyn 58 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed gyda bwriad, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig