Rhieni'n 'unig' yn sgil diffyg gofal plant i blant anabl

  • Cyhoeddwyd
Maggs a'i mab
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maggs fod ei mab wedi cael ei wrthod gan sawl lleoliad gofal plant

Mae angen mwy o arian er mwyn dod i'r afael â diffyg llefydd gofal plant yng Nghymru i blant anabl, medd adroddiad.

Fe wnaeth y nifer o lefydd gofal plant ar gyfer plant anabl ddisgyn o 31% yn 2020 i 19% yn 2021, yn ôl ymchwil gan elusen gofal plant.

Dywedodd mam i blentyn awtistig yng Nghaerdydd fod nifer o rieni'n wynebu "trafferth, cael eu gwrthod a theimlo'n unig" wrth geisio darganfod gofal plant addas.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gwaith wedi dechrau" i ehangu gofal plant sydd wedi'i ariannu i fwy o deuluoedd.

'Nid dyma'r lleoliad cywir i'ch mab'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maggs ei bod yn teimlo'n "unig" wrth geisio dod o hyd i ofal i'w mab

Mae Maggs o Gaerdydd a'i gŵr yn gweithio'n llawn amser, ond maen nhw wedi gorfod addasu eu horiau gwaith er mwyn gofalu am eu plentyn awtistig 7 oed a'u dau o blant eraill.

Maen nhw'n gweithio rhai diwrnodau byrrach, dechrau diwrnodau'n gynt, ac yn cael cymorth gan eu rhieni.

Nid oes gan eu mab unrhyw ofal y tu hwnt i oriau ysgol, a dros y blynyddoedd mae nifer o leoliadau wedi dweud wrth Maggs na allen nhw gynnig y gofal sydd ei angen arno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maggs wedi cael trafferth yn trefnu gofal plant i'w mab am flynyddoedd

Mae yna ddau brif her, meddai, sef dod o hyd i arian ac yna dod o hyd i leoliad gofal plant fydd yn derbyn ac yn cynnwys ei mab.

"Dwi wedi clywed 'nid dyma yw'r lleoliad cywir i'ch mab chi,' neu 'nid dyma yw'r drefn gorau i dy blentyn'," meddai.

Yn y gorffennol, mae ei mab hefyd wedi cael ei adael allan, yn hytrach na bod y gofal wedi'i addasu er mwyn ei gynnwys.

Trwy ei blog a rhwydweithiau cefnogaeth leol, mae Maggs wedi clywed gan nifer o rieni eraill sy'n wynebu heriau tebyg.

'Dyw e ddim yn hawdd'

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan fab Claire anghenion cymhleth

Yn ôl ymchwil gan yr elusen teuluoedd a gofal plant Coram, roedd yna ostyngiad sylweddol yn y nifer o lefydd gofal plant y llynedd ar gyfer plant gydag anghenion dysgu cymhleth - gan ddisgyn o 31% yn 2020 i 19% yn 2021.

Fe wnaeth o leiaf wyth allan o 22 awdurdod lleol Cymru nodi nad oedd ganddyn nhw ddigon o ofal plant i blant anabl.

Roedd teuluoedd mewn ardaloedd gwledig a'r rheiny oedd yn gweithio oriau anghymdeithasol hefyd yn ei gweld hi'n anoddach i ddod o hyd i ofal plant.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Claire golli'r holl ofal ar gyfer ei mab yn ystod y pandemig

I Claire o Fangor, fe wnaeth gofal plant ddod i ben yn ystod y pandemig.

Mae gan ei mab, sy'n 6, anghenion cymhleth gan gynnwys awstiaeth, ac nid yw'n siarad.

Fe wnaeth ei gŵr, sydd yn hunangyflogedig, gwtogi ei oriau gwaith er mwyn gofalu am eu mab.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Claire yn ansicr a fydd modd iddi weithio'n llawn amser yn y dyfodol

Yn dilyn proses ymgeisio hir, fe wnaethon nhw ddarganfod yn ddiweddar y bydden nhw'n derbyn chwe awr o ofal plant yr wythnos - ond ni wnaethon nhw gael gwybod pryd fyddai hwn yn cychwyn.

Yn yr hir dymor, maen nhw wedi cwestiynu a yw'n bosib i'r ddau ohonyn nhw weithio llawn amser.

"Dyw e ddim yn hawdd. Gelli di ddim jyst ei adael gyda rhywun sydd ddim yn ymwybodol o'i anghenion."

Fe wnaeth arolwg o 3,000 o deuluoedd yn y DU gyda phlant anabl ddarganfod y bu'n rhaid i 33% adael eu swyddi o ganlyniad i ddiffyg gofal plant.

'Cymorth ychwanegol ddim yno'

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen atebion "mwy cynaliadwy" wrth symud ymlaen, medd Menna Machreth o'r Mudiad Meithrin

Mae Menna Machreth o Gaernarfon yn gweithio i'r Mudiad Meithrin, sef prif ddarparwyr gofal ac addysg cynnar yn y Gymraeg.

Yn aml mae lleoliadau'n dymuno croesawu pob plentyn, meddai hi, "ond dyw'r cymorth neu'r dwylo ychwanegol ddim yno".

Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru rhoi "atebion mwy cynaliadwy am y ffordd ymlaen".

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £18m i gryfhau'r cymorth i blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn galw am well cyllideb i wella gofal plant ar gyfer teuluoedd gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg gofal i blant anabl yn "syfrdanol," meddai'r AS Jenny Rathbone

Fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor, yr AS Jenny Rathbone, alw'r lleihad yn y nifer o lefydd gofal plant i blant gydag anableddau yn "syfrdanol iawn," gan ddweud eu bod "wedi dioddef o ganlyniad i'r pandemig".

Yn eu hadroddiad, fe ddywedodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod gofal plant presennol ac ar gyfer y dyfodol wedi eu cynllunio i gynnwys pob math o angenhenion.

Dywedodd Ms Rathbone y byddai angen i Lywodraeth Cymru "sicrhau fod unrhyw ddarpariaeth maen nhw'n talu ar ei gyfer yn "addas i'r diben".

Ychwanegodd bod angen i awdurdodau lleol "feddwl mwy" am sut i gefnogi teuluoedd gydag anghenion dysgu ychwanegol.

'Awyddus i ddysgu a gwella'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Bydd angen amser ar awdurdodau lleol i ystyried y casgliadau a'r awgrymiadau mewn manylder.

"Mae cynghorau yn awyddus i ddysgu gwersi a sicrhau gwelliannau, ac maen nhw'n edrych ymlaen at weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth o ofal plant ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gwaith wedi cychwyn i ehangu gofal plant sydd wedi'i ariannu i fwy o deuluoedd."

"Rydyn ni'n darparu mwy na £1.5m y flwyddyn mewn cefnogaeth i blant gydag anghenion ychwanegol o fewn y Cynnig Gofal Plant, ac mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i wneud lleoliadau yn hygyrch.

"Eleni rydyn ni hefyd wedi clustnodi £5m i awdurdodau lleol greu cyfleoedd chwarae hygyrch."