Rhai gweithwyr allweddol ddim yn cael gofal plant
- Cyhoeddwyd
Mae undebau wedi beirniadu penderfyniad rhai cynghorau yng Nghymru i beidio sicrhau gofal plant i rai gweithwyr allweddol.
Ddechrau'r pandemig fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu rhestr o swyddi hanfodol, dolen allanol ar gyfer awdurdodau lleol ond mae rhai cynghorau wedi llunio rhestrau eu hunain sydd ddim yn cynnwys swyddi fel gweithwyr bwyd ac athrawon.
Mae undeb athrawon yr NASUWT wedi dweud "nid yw hynny'n gwneud synnwyr".
Mae'n ymddangos y bydd ysgolion Cymru ar gau i'r rhan fwyaf o ddisgyblion tan hanner tymor fis Chwefror oni bai bod achosion Covid yn gostwng yn "sylweddol".
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru "rhaid i awdurdodau lleol ystyried y rhestr wrth benderfynu pwy sy'n cyfrif fel gweithwyr hanfodol".
'Digwydd ar sail cod post'
Dywed undeb gweithwyr siopau Usdaw ei fod yn bwysig fod gweithwyr bwyd hanfodol â mynediad i ofal plant fel bod siopau yn gallu aros ar agor.
Mae Undeb y TUC yn dweud bod darpariaeth i blant yn "rhywbeth sy'n digwydd ar sail cod post".
Wrth gael eu holi gan BBC Cymru fe wnaeth nifer o gynghorau gadarnhau eu bod yn dilyn rhestr Llywodraeth Cymru ond fe ddywedodd eraill nad ydynt yn diffinio rhai o'r swyddi fel rhai angenrheidiol.
Dywed Cyngor Ceredigion eu bod nhw ond yn ystyried gweithwyr rheng flaen y sector iechyd a gofal a'r gwasanaethau brys fel gweithwyr allweddol.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ystyried staff ysgol yn weithwyr allweddol ond nid gweithwyr bwyd, cyfathrebu a thrafnidiaeth - ond maent yn cynnwys eu staff rheng flaen eu hunain.
Mae cynghorau Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont a Bro Morgannwg yn cynnwys gofal plant a staff addysg - ond nid gweithwyr bwyd, cyfleustodau, gweithwyr cyngor na chyfathrebu gan gynnwys newyddiadurwyr sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont nad oedd "llawer o lefydd ar gael mewn ysgolion oherwydd y rheidrwydd i greu swigod bach a bod yn rhaid i athrawon barhau i gynnal gwersi ar-lein a llenwi yn ystod salwch staff", ond mae'n ychwanegu bod y cyngor yn barod i ehangu'r ddarpariaeth petai cyfle i wneud hynny.
Dywedodd cynghorau Abertawe, Gwynedd, Torfaen, Penfro, Casnewydd, Fflint, Mynwy, Powys, Caerffili, Conwy, Merthyr Tydfil a Chaerdydd eu bod yn cadw at restr Llywodraeth Cymru a dywed cynghorau Caerdydd a Merthyr eu bod yn rhoi blaenoriaeth i blant gweithwyr iechyd, gwasanaethau brys, addysg a gofal cymdeithasol os oes prinder lle.
Ni chafwyd manylion am ddarpariaethau cynghorau Blaenau Gwent, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot a Dinbych.
Pwy sydd ar restr Llywodraeth Cymru?
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys meddygon, nyrsys a pharafeddygon;
Diogelwch cyhoeddus (staff gwasanaethau brys) a gweithwyr diogelwch cenedlaethol;
Gweithwyr addysg a gofal plant;
Gweithwyr bwyd ac anghenion eraill gan gynnwys ffermwyr a manwerthwyr bwyd;
Gweithwyr trafnidiaeth, gan gynnwys gyrwyr bws a thacsi;
Gweithwyr cyfleustodau, cyfathrebu ac ariannol gan gynnwys atebwyr galwadau 999, postmyn a newyddiadurwyr;
Gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gweithwyr cyngor rheng flaen.
Dywedodd Neil Butler, o undeb NASUWT: "Fel pobl sy'n darparu gwasanaeth hanfodol, dylai athrawon a staff eraill yn yr ysgol gael eu hystyried yn weithwyr allweddol.
"Dyw ysgolion ddim ar gau yn ystod y cyfnod clo - maent ar agor ar gyfer nifer cyfyngedig o ddisgyblion ac felly mae disgwyl i nifer o athrawon a staff eraill fynd i'r gweithle.
"Os nad yw eu plant eu hunain yn cael mynychu'r ysgol, fyddan nhw ddim yn gallu darparu unrhyw addysg i blant gweithwyr allweddol eraill."
Mae Mr Butler yn galw ar gynghorau i ailystyried eu penderfyniad.
"Dyw penderfyniad nifer o gynghorau ddim yn gwneud synnwyr ac mae'n tanseilio cefnogaeth ysgolion yn y frwydr yn erbyn Covid-19," meddai.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC Shavanah Taj ei bod yn "bryder nad yw gwasanaethau fel gofal plant ar gael i bawb sydd ar y rhestr o weithwyr hanfodol".
"Dyw hi ddim yn deg bod rhywun efallai sy'n gweithio mewn archfarchnad neu ffatri brosesu bwyd yn cael y gwasanaeth a gweithwyr bwyd eraill ddim - mae hynny'n wahaniaethu ar sail cod post," meddai.
"Ac wrth ystyried gofal plant, merched sy'n ennill y cyflog lleiaf sy'n debygol o ddioddef waethaf. Rhaid edrych ar y mater eto a sicrhau tegwch ar draws Cymru."
Dywed un athrawes, nad yw am gael ei henwi, fod pobl yn anghofio bod ganddi hi hefyd blant a bod disgwyl iddi roi gwersi ar-lein i ddisgyblion eraill.
Ychwanegodd Nick Ireland o undeb Usdaw - sef undeb y rhai sy'n gweithio mewn siopau - ei fod yn falch bod staff manwerthu yn cael eu hystyried fel gweithwyr allweddol.
"Ond mae hynny'n golygu y dylent gael mynediad i ofal plant a rhaid cael cysondeb ar draws Cymru - mae'n holl bwysig bod ein holl staff sy'n gweithio mewn siopau neu'n cludo nwyddau yn cael gofal plant fel bod modd i siopau aros ar agor," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020