Staff GIG: 'Ry'n ni wedi blino ond dyna'n gwaith ni'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon blaenllaw yn rhybuddio bod y straen aruthrol ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd yn sgil ton Omicron a phwysau'r gaeaf yn cael effaith niweidiol ar eu gwaith a'u bywydau personol.
Awgrymodd arolwg newydd gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod 63% o staff y GIG yng Nghymru wedi teimlo nad oedden nhw'n gallu ymdopi dros yr wythnosau diwethaf.
Mae'r coleg yn galw am fuddsoddiad sylweddol i gefnogi staff presennol a recriwtio staff ychwanegol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo "i wella mynediad staff at gymorth a bod mwy o lefydd hyfforddi i staff iechyd nag erioed o'r blaen".
'Dim amser i wneud popeth'
Dywedodd Dr Glesni Davies, sy'n gofrestrydd arbenigol yng ngofal yr henoed yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei bod yn aml yn gorfod gweithio shifftiau ychwanegol ar fyr-rybudd.
"'Dan ni'n cael ein gofyn i weithio sifftiau ychwanegol bron bob dydd... weithiau 'dan ni ddim yn gwybod tan ddechrau shifft bod dim digon o staff gyda ni," meddai.
"Nes i weithio dydd Llun Gŵyl y Banc ar ôl y Nadolig ac roedden ni ddau aelod o staff yn brin. 'Naethon ni ffeindio mas am un y noson gynt a'r llall y bore hwnnw.
"Y diwrnod hwnnw, oedd e'n teimlo bod ni'n rhedeg o un achos brys i'r llall, doedd dim amser i 'neud popeth. Roedd o'n sifft andros o anodd.
"Mae'n gyfnod anodd i fod yn feddyg. Mae'r cyfan yn teimlo'n ddiddiwedd."
'Euogrwydd' am ynysu i ffwrdd o'r gwaith
Dywedodd Dr Gwenllian Davies ei bod hi'n teimlo'n euog ar brydiau yn gadael i'w phlant chwarae ag eraill, rhag ofn iddyn nhw ddal coronafeirws a'i bod hi wedyn yn gorfod hunan-ynysu.
"Dros y ddeufis diwethaf bron bob bore cyn i fi roi y tegell 'mlaen bydde negeseuon ffôn yn dod drwyddo i ddweud fod rhywun yn sâl neu fod aelod o'u teulu nhw yn sâl," meddai'r ymgynghorydd gofal diwedd oes yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
"Bob tro bydde rhywun yn hala neges neu'n ffonio i ddweud bod nhw'n dost, rwyt ti'n gallu teimlo'r euogrwydd - 'sori fi ffaelu dod i gwaith', 'sori bo' fi ffaelu dod mewn' - ond ma' nhw'n gwneud y peth iawn, ma' nhw'n ffaelu dod â'r risg mewn i'r cleifion.
"Rwy'n becso am sut mae'r penderfyniadau rwy'n gwneud gartref yn mynd i effeithio ar fy ngwaith. Er enghraifft, os ydw i'n gadael i'm mhlant i fod yn blant... ydy hynny'n meddwl bo' fi'n mynd i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod?
"Ma' hwn yn ddirdynnol ofnadwy achos fel rhiant fy mhlant i yw'r pethe pwysicaf yn y byd, ond rwy'n gwybod bod 'na gleifion dwi angen mynd i'w gweld."
'Pobl wedi blino'
Mae Dr Sam Rice yn egluro pa mor anodd yw hi weithiau i gydbwyso anghenion gwaith a theulu.
"Dwi'n gorfod bod adre' heddiw - mae'n fachgen bach i wedi cael Covid eto. Ma' ngwraig i yn GP felly hi sy mewn heddi, fydda i mewn fory a hi adref. Dwi'n gwneud clinig o adref prynhawn 'ma dros y ffôn.
"Mae'n anodd pan fo pethau fel hyn yn digwydd oherwydd fydd y bobl sy' mewn yn gwaith heddi yn gorfod gwneud peth o fy ngwaith i hefyd," medd yr ymgynghorydd endocrinoleg yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
"Dwi'n meddwl fod pobl wedi blino ond dyna'n gwaith ni. Dyna'r hyn i ni wedi cael ein hyfforddi i wneud. Dyna'r hyn mae'n sgiliau ni yn caniatáu i ni neud."
'Cleifion yn unig ac isel'
Mae'r meddygon yn cytuno fod prinder staffio yn cael rhywfaint o effaith ar gleifion.
"Mae staff yn trio eu gorau, ond i ni wedi cael yn stretchio rhy bell," medd Dr Gwenllian Davies.
"Dydw i ddim yn nyrs... ond rwy'n gwybod bo' fi'n gallu gwneud siŵr bod cwpan dŵr claf yn llawn, neu allen i helpu torri'r cig pan oedd cinio yn dod rownd a cheisio tynnu'r baich rhywfaint oddi ar y nyrsys."
"Mae'n amlwg fod rhai cleifion yn unig ac yn isel," medd Dr Glesni Davies, "yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty ers misoedd.
"'Sen i'n licio gallu treulio mwy o amser gyda nhw, cadw cwmni a siarad â nhw, ond oherwydd prinder staff ry'n ni'n gorfod brysio o un lle i'r llall."
"Ma' gyda ni un ward yn llawn cleifion â Covid," meddai Dr Rice.
"Ond ma' gyda ni fwy o gleifion na hynny - tair ward yn llawn pobl sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty ond yn methu oherwydd prinder gofalwyr ac yn y blaen."
'Neb â'r sgiliau ar gael'
Beth ydy barn y meddygon ynglŷn â sut mae gwella'r sefyllfa?
"Dydy o ddim mor syml â dim ond gwario mwy o arian," meddai Dr Rice.
"Ambell waith does neb yn ceisio am swyddi - nid oherwydd nad ydyn nhw moyn gweithio yng Nghymru, ond yn syml does neb â'r sgiliau ar gael."
"Doedd dim y niferoedd cywir o staff gyda ni cyn dechre [y pandemig]," meddai Dr Gwenllian Davies
"Roedden ni'n arfer gweithio oriau ychwanegol, nawr ry'n ni'n gwneud oriau ychwanegol trwy'r amser. Felly ma' angen cael staff newydd mewn ond hefyd gwerthfawrogi y staff sydd gyda ni eisoes."
"Ma' pobl wedi blino - nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol hefyd," meddai Dr Glesni Davies.
"'Dan ni 'di blino â'r problemau staffio, 'di blino ar beidio rhoi'r gofal mae'r cleifion yn ei haeddu.
"Dwi'n gwybod bod hyn wedi arwain i rai o fy nghydweithwyr i gwestiynu pa mor hir ma' nhw am aros yn y swydd yma. Mae'n teimlo'n ddiddiwedd ar hyn o bryd."
'Gwerthfawrogi'r gwaith diflino'
Gydol y pandemig mae straen ar y gwasanaeth iechyd a'i staff wedi bod yn aruthrol. Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae'r nifer helaeth o weithwyr ar eu gliniau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwerthfawrogi gwaith diflino staff, a bod mwy o staff iechyd yn cael eu hyfforddi nawr nag erioed.
"Rydym yn gwybod bod staff y gwasanaeth iechyd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, gan beryglu eu lles eu hunain er mwyn cadw'r gweddill ohonom yn ddiogel," meddai llefarydd.
"Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad i'r cymorth angenrheidiol i feddygon sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.
"Ry'n ni bellach yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o £262m mewn hyfforddiant ac addysg ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae gennym fwy o leoedd hyfforddi nag erioed o'r blaen.
"Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol yn cynyddu gallu'r gweithlu i helpu'r gwasanaeth i ymateb i heriau'r pandemig a'r dyfodol.
"Cyn cyfnod y gaeaf, gwnaethom fuddsoddi £42m mewn gofal cymdeithasol i helpu i leddfu'r pwysau ar welyau ysbyty a chefnogi pobl i gael gofal gartref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021