Dringwr wedi marw ar ôl disgyn o glogwyn yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Glyder FachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyn wedi disgyn o glogwyn i geunant ar fynydd Glyder Fach

Mae dyn 25 oed wedi marw ar ôl iddo ddisgyn 60 metr o glogwyn yn Eryri ddydd Sul.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod wedi cael eu galw gan yr heddlu i'r digwyddiad ar fynydd Glyder Fach toc wedi hanner dydd.

Roedd y dyn wedi disgyn o glogwyn i geunant, ac roedd tri o ddringwyr eraill - un oedd wedi bod yn dringo gyda'r dyn fu farw a dau o bobl leol oedd hefyd yn dringo yn yr ardal - wedi gwneud eu ffordd i lawr i geisio ei achub.

Yn ôl y tîm achub mynydd cafodd hofrennydd gwylwyr y glannau ei alw o Gaernarfon, ond doedd dim modd iddo geisio achub y dyn oherwydd cymylau isel.

Fe wnaeth yr hofrennydd felly hedfan aelodau o'r tîm achub mynydd i Gwm Bochlwyd gerllaw, ond pan gyrhaeddon nhw'r ceunant fe ddaeth yn amlwg fod y dyn a ddisgynnodd wedi marw.

Cafodd y tri dringwr arall eu helpu o'r mynydd a'r dyn fu farw ei gymryd oddi yno ar stretcher, gyda gwyntoedd cryfion yn gwneud y gwaith yn fwy peryglus i'r tîm achub.

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bu criwiau yn gweithio am 10 awr i gael y dyn fu farw oddi ar y mynydd, gyda helpu Tîm Achub Mynydd Llanberis.

"Tra bod achos y digwyddiad yma eto i gael ei ymchwilio, mae'n ymddangos yn ddigwyddiad hynod anffodus," meddai llefarydd.