System gyfiawnder wedi 'siomi' teulu ar ôl i gar daro'u mab

  • Cyhoeddwyd
Oliver yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Oliver, 11, ei daro gan gar tra'i fod allan gyda'i ffrindiau yn haf y llynedd

Mae teulu bachgen 11 oed a gafodd anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar yn dweud eu bod "wedi'u gadael i lawr" gan y system gyfiawnder gan fod y gyrrwr heb fynd i'r carchar.

Cafodd Oliver Davies o Dredegar anafiadau i'w gefn a'i ysgyfaint ac fe dorrwyd nifer o'i esgyrn ar ôl i gar, a oedd yn cael ei yrru gan Samuel Congreve, 24, o'r Coed-duon, ei daro fis Mehefin y llynedd.

Yn gynharach yn y mis, mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd, fe gyfaddefodd Congreve iddo fethu â stopio yn dilyn damwain ffordd, gyrru'n ddiofal, gyrru dan ddylanwad cyffuriau a methu â hysbysu'r heddlu am y ddamwain.

Cafodd ddedfryd o bedwar mis o carchar wedi ei ohirio am chwe mis. Cafodd orchymyn cyrffyw am gyfnod o dri mis hefyd, yn ogystal â gorchymyn i dalu costau'r llys a thâl ychwanegol i'r dioddefwr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl un o esgyrn Oliver eu torri yn y gwrthdrawiad

Roedd Oliver allan gyda'i ffrindiau pan gafodd ei daro. Dywedodd Ms Davies fod y profiad yn "erchyll".

"Ro'n i'n llefain y glaw," meddai. "Yn amlwg do'n i ddim yn gwybod ar y pwynt hwnna [pan gafodd wybod am y digwyddiad] os oedd Ollie'n dal yn fyw.

"Roedd e'n erchyll. Ro'n i'n teimlo'n sâl."

'Gweiddi mewn poen'

Saith mis yn ddiweddarach, mae anafiadau Oliver yn dal i achosi poen iddo.

"Dy'n ni ddim yn gallu gwneud y pethau ro'n ni'n arfer eu gwneud nawr, achos dyw e ddim yn gallu cerdded yn bell iawn," dywedodd Ms Davies.

"Mi allai e fod yn eistedd i lawr neu'n sefyll ac allan o unlle, mae e'n gweiddi mewn poen," ychwanegodd Ms Davies.

"Dyw Oliver ddim yn mynd allan rhagor, mewn gwirionedd. Alla i ddim cofio'r tro diwethaf iddo fynd allan gyda'i ffrindiau. Maen nhw'n chwarae pêl-droed a rygbi a dyw Oliver ddim yn gallu gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Oliver yn dymuno gweld adolygiad o ddedfryd gyrrwr y car

Mae teulu Oliver yn teimlo bod dedfryd Congreve yn rhy drugarog o ystyried natur y drosedd, ac maen nhw am i'r ddedfryd gael ei hadolygu.

Dywedodd Ms Davies: "Yr unig beth all gael ni allan o hyn nawr yw ei fod e'n cael dedfryd o garchar. Dyna'r unig ateb allwn ni obeithio amdano, mewn gwirionedd.

"Dw i ddim yn hyderus o gwbwl. Ry'n ni wedi cael ein gadael i lawr".

Pynciau cysylltiedig