Achos twyll Gerald Corrigan: Rheithgor wedi'i ddiddymu

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Honnir i Gerald Corrigan a'i bartner gael eu twyllo o dros £200,000

Mae'r rheithgor wedi cael ei ddiddymu yn achos dyn sydd wedi'i gyhuddo o dwyllo pensiynwr a gafodd ei ladd gyda bwa croes yn ddiweddarach.

Roedd Wyn Lewis wedi gwadu 11 cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Roedd ei bartner Siwan McLean wedi gwadu un cyhuddiad o lanhau arian.

Clywodd y rheithgor nad oedd yr erlyniad wedi medru dod â'i achos i derfyn, ond nad oedd bai ar unrhyw un am hynny.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron Yr Wyddgrug: "Fedrai ddim rhoi unrhyw fanylion.

"Rwy'n deall bod hyn yn anfoddhaol i'r rheithgor, ond does dim byd sinistr wedi digwydd, does neb wedi mynd yn sâl ac nid bai'r cyfreithiwr yw hyn."

Ychwanegodd y gallai achos arall gael ei gynnal cyn diwedd y flwyddyn.

Bu farw Gerald Corrigan yn 2018 wedi iddo gael ei saethu gyda bwa croes ger ei gartref ar Ynys Môn

Roedd Wyn Lewis wedi'i gyhuddo o'i dwyllo ef a'i bartner o dros £200,000. Clywodd y llys nad oedd y cyhuddiadau'n gysylltiedig â llofruddiaeth Mr Corrigan.

Pynciau cysylltiedig