Cwpan FA Lloegr: Lerpwl 3-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gôl Diogo JotaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Diogo Jota'n sgorio gôl gyntaf y gêm

Mae Caerdydd allan o gystadleuaeth Cwpan FA Lloegr 2022 ar ôl colli i un o gewri'r Uwchgynhrair oddi cartref.

Ond mi all yr Adar Gleision - a rhyw 7,000 o gefnogwyr - adael Anfield gyda'u pennau'n uchel wedi perfformiad llawn ysbryd a gôl gysur gofiadwy yn erbyn Lerpwl gan Rubin Colwill.

Er cyfnodau hir o orfod amddiffyn, fe lwyddodd Caerdydd i atal y tîm cartref rhag sgorio am dros 50 o funudau, cyn colli yn y pen draw o 3-1.

Ond roedd yna ddau benderfyniadau dadleuol a allai fod wedi newid y fantol petai'r dyfarniadau wedi mynd o blaid tîm Steve Morrison.

Cafodd Caerdydd ddechrau addawol gyda chroesiad gan Perry Ng ond roedd angen arbediad buan hefyd gan Dillon Phillips i atal ergyd gan Diogo Jota o 12 llath.

O fewn dim wedi hynny roedd Lerpwl yn gorfodi Caerdydd i amddiffyn, ac fe rwydodd Takumi Minamino gydag ergyd i gornel y rhwyd wedi naw munud ond nid oedd y gôl yn cyfri oherwydd camsefyll.

Lerpwl wnaeth sicrhau rhan helaeth o'r meddiant, ond roedd eu hamddiffynnwr, Ibrahima Konate yn ffodus eithriadol i osgoi ildio cic gosb am daro yn erbyn Mark Harris yn y cwrt chwech.

Cafodd Will Vaulks gyfle da i sgorio gydag ergyd aeth ychydig heibio'r postyn. Er i Lerpwl gael llawer mwy o gyfleoedd doedd dim gwir fygythiad, mewn gwirionedd, i amddiffyn Caerdydd.

Roedd yna floedd o foddhad gan gefnogwyr yr Adar Gleision wrth i'r hanner cyntaf ddirwyn i ben yn ddi-sgôr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bron yn syth wedi i'r gêm ailddechrau roedd yna weiddi am gic gosb wedi i golwr Lerpwl, Caoimhin Kelleher, ruthro tu hwnt i'r blwch a baglu Mark Harris, oedd â chyfle clir i sgorio gyda'r gôl yn wag. Ond wedi apêl VAR cerdyn melyn yn unig y gwelodd y golwr.

Ond doedd dim dadl ynghylch peniad campus Diogo Jata a roddodd Lerpwl ar y blaen wedi 53 o funudau.

O fewn chwarter awr roedd y tîm cartref wedi dyblu'r fantais, gan elwa o flerwch o fewn amddiffyn Caerdydd arweiniodd at ergyd Minamino i'r rhwyd.

Gyda chwarter awr o'r 90 munud yn weddill, roedd yr eilydd Harvey Elliott, yn ei ymddangosiad cyntaf ers anaf difrifol y llynedd, wedi sgorio trydedd gôl i Lerpwl, gan greu fwy fyth o dalcen caled i'r Adar Gleision.

Daeth lygedyn o obaith wedi 79 o funudau - mewn gwrthymosodiad, fe gipiodd Rubin Colwill y bêl a'i phasio i Isaak Davies a wibiodd heibio amddiffynwyr Lerpwl, cyn pasio'r bêl yn ôl i Colwill ei rhwydo gydag ergyd isel.

Colwill gafodd cyffyrddiad olaf y gêm a Lerpwl sy'n mynd yn eu blaenau i wynebu Norwich, eto yn Anfield, ym mhumed rownd y gystadleuaeth.