Andrew RT Davies: Nid bai Johnson oedd protestwyr Starmer
- Cyhoeddwyd
Nid Boris Johnson sy'n gyfrifol am weithredoedd protestwyr wnaeth amgylchynu Syr Keir Starmer, yn ôl arweinydd Ceidwadol Cymreig.
Mae gwleidyddion o Gymru wedi bod yn ymateb ar ôl i brotestwyr dargedu'r arweinydd Llafur, gan ailadrodd honiadau di-sail gan Mr Johnson yn dweud iddo fethu â dwyn achos yn erbyn Jimmy Savile.
Mae Rhif 10 wedi dweud na fydd y prif weinidog yn ymddiheuro am y sylwadau a wnaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae Mr Johnson wedi dweud iddo gyfeirio at y ffaith mai Syr Kier oedd cyn-bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron a'i fod wedi ymddiheuro am fethiant ei adran i ddod ag achos yn erbyn Savile.
Fe wnaeth y protestwyr amgylchynu Syr Keir yn ardal San Steffan nos Lun a bu'n rhai i'r heddlu ei hebrwng i ddiogelwch.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, bod ymddygiad y protestwyr yn "gwbl annerbyniol".
"Rydyn ni'n byw mewn democratiaeth. Dylai gwleidyddion o bob lliw gael mynd allan, gwneud eu dadleuon yn ddiogel er mwyn i bobl wneud penderfyniadau eu hunain", meddai.
Ond ychwanegodd bod Mr Johnson wedi egluro nad oedd gan Syr Keir rôl wrth benderfynu ar erlyn Jimmy Savile ai peidio.
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Mr Johnson ymddiheuro: "Dydw i ddim yn derbyn y pwynt bod sylwadau'r prif weinidog wedi annog y protestiadau neithiwr...
"Fel ydw i'n ei deall hi, mae'r protestwyr wedi bod o amgylch San Steffan, yn ymosod ar wleidyddion o bob lliw."
Mae Mr Johnson hefyd wedi trydar yn condemnio ymddygiad y protestwyr gan ddweud fod hyn yn "gwbl annerbyniol".
Dywedodd ffynhonnell o Rif 10 ei fod yn afresymol i awgrymu fod yr hyn ddigwyddodd yn "fai Boris ac nid y mob".
'Trueni mawr'
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan fod yna gyfrifoldeb mawr ar wleidyddion am y math o iaith maen nhw'n ei ddefnyddio.
"Trueni mawr fod hi wedi dod i'r sefyllfa yma a thrueni mawr fod Boris Johnson wedi cyfeirio at Jimmy Savile yn y Tŷ Cyffredin a dim sail i hyn," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Ma' hi'n ddigon o broblem fel ma' hi a hynny yn amlwg o'r ymateb - wedi creu awyrgylch, ac wedi creu sefyllfa fod pobl hefyd yn ymateb, hynny ar gynnydd yn ein cymunedau.
"Y peth diwethaf 'dan ni angen ydy gwleidyddion yn cynyddu'r broblem."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nos Lun fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford drydar am y "golygfeydd gwarthus y tu allan i San Steffan heno".
"Mae gennym ddyletswydd i gynnal dadl wleidyddol yn gyfrifol. Ni ddylai geiriau a gweithredoedd byth achosi casineb."
Dywedodd Hywel Williams AS Arfon Plaid Cymru y dylai Boris Johnson ddod yn ôl i Dŷ'r Cyffredin gan roi "ymddiheuriad diamod" am ei honiad.
Yn ôl David TC Davies, Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru, roedd hyn a ddigwyddodd yn "gwbl warthus", ond mae'r prif weinidog eisoes wedi egluro ei sylwadau.
Dywedodd fod y prif weinidog wedi egluro ei fod yn derbyn nad oedd gan Syr Keir ran uniongyrchol yn yr achos.
"Yn amlwg dyw Keir Starmer ddim byd i neud ynglŷn â Jimmy Savile - meddwl bod y Prif Weinidog wedi clirio ei safbwynt ar hynny, " meddai Mr Davies ar raglen Dros Frecwast.
"[Mae] pob un o'r protestwyr yn erbyn vaccination - dyna wraidd y brotest, nid Jimmy Savile - protestio yn erbyn New World Order.
"[Mae] aelod o blaid lafur defnyddio term "Tory scum" - hynny yn cael ei roi yn aml i ni.
"Mae'n rhaid i bob un ohonom fel aelodau seneddol fod yn ofalus o ran be 'da ni'n ei ddweud - dwi wedi bod yn victim o fake news."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022