Guto Harri yw rheolwr cyfathrebu newydd Boris Johnson
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi penodi'r cyflwynydd Guto Harri fel ei gyfarwyddwr cyfathrebu newydd.
Y Cymro oedd pennaeth cyfathrebu a phennaeth staff Mr Johnson yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Llundain.
Mae S4C wedi cadarnhau na fydd yn parhau i gyflwyno'r rhaglen deledu Y Byd Yn Ei Le yn sgil y penodiad.
Daw cyhoeddiad Mr Johnson wedi i sawl aelod allweddol o dîm Mr Johnson yn Downing Street ymddiswyddo yn ystod y dyddiau diwethaf.
Mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus i'r Prif Weinidog a'i weinyddiaeth wedi i'r uwch was sifil Sue Gray gyhoeddi adroddiad cychwynnol i bartïon yn Downing Street tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.
Dywedodd Mr Johnson bod Mr Harri "yn newyddiadurwr uchel ei barch â gyrfa ddisglair gyda'r BBC cyn ymgymryd â rhai o'r swyddi cyfathrebu mwyaf heriol".
Ar ôl ei gyfnod diwethaf yn gweithio i Boris Johnson, cafodd Guto Harri ei benodi'n gyfarwyddwr cyfathrebu News UK, cwmni Rupert Murdoch, yn y cyfnod yn dilyn y sgandal hacio ffonau.
Roedd hefyd ar un cyfnod yn ymgynghorydd i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Hawthorn Advisers, ac fe fu hefyd mewn swydd blaenllaw gyda Liberty Global.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae wedi ysgrifennu colofnau i nifer o bapurau newydd gan gynnwys y Times a'r Daily Telegraph, ac mae wedi bod yn sylwebydd cyson ar raglenni LBC, Sky a'r BBC, gan ymateb yn aml ar ddatblygiadau'n ymwneud â Mr Johnson a'i lywodraeth.
Y llynedd fe ymunodd â thîm darlledu'r sianel deledu newydd GB News cyn i reolwyr ddweud ei fod wedi torri safonau'r sianel trwy benlinio ar yr awyr i ddangos cefnogaeth i bêl-droedwyr tîm Lloegr.
Mewn cyfweliad â phodlediad Newscast y BBC yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Harri: "Mae Boris yn gyson wedi tanbrisio pa mor hanfodol yw cael tîm ffantastig o'i amgylch".
Dywedodd hefyd bod angen i Mr Johnson wneud addewid i'r Blaid Geidwadol na fyddai'r "nonsens sydd wedi digwydd" yn digwydd eto.
Mae Mr Johnson hefyd wedi penodi Steve Barclay AS i fod yn bennaeth staff fel rhan o newidiadau a fydd "yn cryfhau rôl fy Nghabinet a chydweithwyr meinciau cefn ac yn cyflymu ein perwyl diffiniol i godi'r gwastad ar draws y wlad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021