Ymddiheuriad Prifysgol Caerdydd wedi hunanladdiad myfyrwraig
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymddiheuro i deulu myfyrwraig a laddodd ei hun oriau ar ôl cael e-bost yn dweud ei bod wedi methu arholiad, a ddim yn cael parhau i'w thrydedd flwyddyn.
Roedd Mared Foulkes, 21, wedi derbyn canlyniadau ym mis Gorffennaf 2020 ond doedden nhw ddim yn adlewyrchu'r ffaith ei bod wedi ail-sefyll y prawf a phasio.
Mae'r brifysgol wedi addo symleiddio'r broses arholiadau ar ôl i'r crwner ddweud ei bod yn "gymhleth" a "dryslyd".
Dywedodd rhieni Mared, Iona a Glyngwyn Foulkes o Borthaethwy, Ynys Môn, eu bod yn drist mai dim ond ar ôl marwolaeth eu merch yr oedd newidiadau'n digwydd.
Fe ychwanegon nhw y bydden nhw wedi dymuno "fel mater o gwrteisi" gael "ymddiheuriad personol".
'Newid sylfaenol a newid sydyn'
Yn Hydref 2021 daeth cwest i'r casgliad bod Mared, oedd yn astudio fferylliaeth, wedi lladd ei hun.
Wedi hynny, fe wnaeth y crwner Katie Sutherland ysgrifennu at Brifysgol Caerdydd yn gofyn iddyn nhw newid y ffordd roedd canlyniadau'n cael eu cyhoeddi.
Fe fethodd Mared asesiad ymarferol fel rhan o'i hail flwyddyn ym mis Mawrth 2020, ond fe basiodd hi ar ôl ail-sefyll fis yn ddiweddarach.
Fe dderbyniodd hi e-bost ar 8 Gorffennaf 2020 oedd yn cyfeirio at ei chanlyniad gwreiddiol yn unig, a heb ystyried y marciau newydd.
Roedd hynny'n golygu na fyddai wedi gallu parhau i'w thrydedd flwyddyn.
Y noson honno fe yrrodd Mared i bont ger ei chartref ble gafodd ei chorff ei ddarganfod.
Dywedodd y crwner bod system ganlyniadau'r brifysgol yn "gymhleth, yn ddryslyd ac weithiau'n gallu ymddangos yn gamarweiniol".
Yn ôl Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Damian Walford Davies, fe wnaethon nhw ddilyn eu "systemau arferol" ar y pryd, oedd yn golygu nad oedd marciau ail-eistedd yn cael eu cadarnhau tan yn ddiweddarach.
"Mae'n berffaith glir bod ein systemau ni - o edrych arnyn nhw eto - yn medru ymddangos yn gamarweiniol ac felly ry'n ni wedi newid ein systemau ar gyfer y flwyddyn hon ar gyfer cylch arholiadau 2022 i wneud yn sicr bod argymhellion y crwner yn cael newid sylfaenol a newid sydyn," meddai.
Dywedodd y brifysgol y byddai'r holl farciau o hyn ymlaen yn cael eu cadarnhau ar yr un pryd.
Mae'r brifysgol hefyd yn dweud bod grŵp wedi ei sefydlu i edrych ar yr iaith sy'n cael ei defnyddio wrth gyfathrebu canlyniadau, yn ogystal â chyfeirio myfyrwyr tuag at gefnogaeth os oedd angen hynny.
Ychwanegodd Yr Athro Walford Davies y byddai'n "anymarferol" i diwtoriaid gysylltu â phob myfyriwr os ydyn nhw wedi methu arholiad, er i'r crwner godi pryderon am hynny.
'Gwell oherwydd Mared'
Wrth ymateb i adroddiad Prifysgol Caerdydd i'r crwner, dywedodd Iona a Glyngwyn Foulkes eu bod yn credu y byddai "pob myfyriwr yn elwa" o newid y drefn rhannu canlyniadau, gan ychwanegu "y bydd hynny o bosib yn achub bywydau".
Ond maen nhw hefyd wedi cwestiynu pam na chafodd gwybodaeth allweddol am les Mared ei rannu gyda'i thiwtor personol, a pham wnaeth y brifysgol ddim rhannu gwybodaeth gyda nhw fel teulu am les Mared.
Yn ogystal, fe ddywedodd Mr a Mrs Foulkes y dylai Prifysgol Caerdydd ystyried system debyg i un Prifysgol Bryste, ble mae myfyrwyr yn rhoi caniatâd i'r brifysgol gysylltu â rhiant neu ffrind os oes pryderon difrifol am eu lles.
"Fe all Prifysgol Caerdydd fod yn well oherwydd Mared," dywedon.
Gan estyn eu "cydymdeimladau dwysaf" i rieni Mared, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymddiheuro.
"Mae'n wirioneddol ddrwg gen i am beth arweiniodd at hyn," meddai'r Is-ganghellor, Yr Athro Colin Riordan.
"Mae'r amgylchiadau yn dorcalonnus ac rwy'n deall yn llwyr dymuniad y teulu i gael atebion i'w cwestiynau."
Ychwanegodd y byddai'n hapus i siarad gyda rhieni Mared, os oedden nhw'n dymuno hynny.
Dywedodd y brifysgol bod mwy o gefnogaeth iechyd meddwl i fyfyrwyr o ganlyniad i'r pandemig a'u bod yn cymryd lles "yn hynod o ddifrifol".
Dywedodd Yr Athro Walford Davies bod 'na "wersi i'w dysgu", gan ychwanegu: "Ry'n ni wedi dysgu rheiny o adroddiad y crwner ac ry'n ni wedi gwrando yn ofalus ac wedi symud yn gyflym i sicrhau fod newidiadau yn digwydd yn ein systemau ni."
Yn eu datganiad, dywedodd Iona a Glyngwyn Foulkes: "Rydym yn siomedig bod Prifysgol Caerdydd wedi dewis rhannu'n gyhoeddus y camau sydd wedi eu cymryd ers marwolaeth ein merch, gyda'r BBC, heb gyfeirio'r mater atom ni o gwbl.
"Mae'r brifysgol wedi dewis mynd at y cyfryngau ac amlinellu'r camau y mae wedi eu cymryd heb aros am ein sylwadau ac ein meddyliau ni yn dilyn eu cyflwyno i'r Crwner ar 31 Ionawr 2022.
"Bydden ni wedi dymuno'r cwrteisi a dyngarwch ymddiheuriad personol, nid un wedi ei rannu gyda gwylwyr yn yr hyn sy'n ymddangos yn ymarferiad cysylltiadau cyhoeddus."
Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021