Mared Foulkes: Galw am newid system ganlyniadau wedi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Mared FoulkesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mared Foulkes ar ôl cael gwybodaeth anghywir am ganlyniadau asesiad

Mae crwner wedi gofyn i Brifysgol Caerdydd newid y ffordd mae'n cyhoeddi canlyniadau arholiad yn dilyn marwolaeth myfyrwraig y llynedd.

Fe wnaeth Mared Foulkes, 21, ladd ei hun ar ôl clywed ei bod wedi methu asesiad ac ni fyddai'n parhau i'w thrydedd flwyddyn, er ei bod wedi pasio'r asesiad hwnnw mewn gwirionedd.

Derbyniodd y fyfyrwraig fferylliaeth o Borthaethwy ganlyniadau gan y brifysgol mewn e-bost, ond nid oeddent wedi ystyried marciau asesiad diweddarach.

Clywodd cwest ar 28 Hydref ei bod wedi marw y noson honno.

Yn dilyn y cwest, mae'r Crwner Katie Sutherland wedi ysgrifennu at Brifysgol Caerdydd yn gofyn iddynt newid y drefn o roi canlyniadau i fyfyrwyr, er mwyn atal marwolaethau yn y dyfodol.

Dywedodd bod system y brifysgol yn "gymhleth, yn ddryslyd ac weithiau'n gallu ymddangos yn gamarweiniol".

Yn y cwest yng Nghaernarfon fis Hydref, dywedodd mam Ms Foulkes fod cymorth y brifysgol wedi bod yn "erchyll" a'i fod wedi arwain yn uniongyrchol at farwolaeth ei merch.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd fod yna wersi i'w dysgu a'u bod wedi cychwyn ar y gwaith o gyflawni hyn.

System yn 'gamarweiniol'

Ysgrifennodd Ms Sutherland, Uwch Grwner Gogledd Orllwein Cymru, at Lywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd i awgrymu rhestr o gamau gweithredu.

Pan fydd myfyriwr wedi ail-sefyll asesiad a derbyn gradd pasio dros-dro, fel digwyddodd yn achos Ms Foulkes, mae'r crwner wedi gofyn i'r brifysgol gadarnhau'r canlyniad cyn gynted â phosib.

Hefyd, gofynnodd iddynt nodi canlyniadau sydd heb gael eu cadarnhau eto wrth anfon canlyniadau at fyfyrwyr, a nodi pryd fyddent yn cael eu cadarnhau.

Y camau eraill oedd rhoi esboniad clir o'r broses gadarnhau i fyfyrwyr, rhoi hyfforddiant parhaus i staff ar sut i esbonio prosesau asesu yn glir i fyfyrwyr, a rhoi mwy o gymorth i fyfyrwyr fydd yn clywed eu bod wedi methu'r flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mared Foulkes yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd

Hefyd yn ei hadroddiad, nododd y crwner y pryderon gododd yn ystod cwest Ms Foulkes.

Dywedodd hi fod system y brifysgol o farcio asesiadau a rhannu canlyniadau yn "gymhleth, yn ddryslyd ac weithiau'n gallu ymddangos yn gamarweiniol".

Pryder arall oedd diffyg system i diwtoriaid personol gysylltu gyda myfyrwyr cyn iddynt glywed eu bod nhw wedi methu'r flwyddyn, "yn enwedig myfyrwyr bregus".

"Fy marn i yw bod yna risg y gallai marwolaethau ddigwydd yn y dyfodol oni bai fod yna weithredu," ysgrifennodd y crwner.

Dywedodd y crwner bod yn rhaid i Brifysgol Caerdydd ymateb i'r adroddiad cyn 5 Ionawr 2022, gan nodi pa gamau maen nhw'n bwriadu eu cymryd neu maen nhw eisoes wedi eu cymryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod yn derbyn fod yna wersi i'w dysgu, eu bod wedi cychwyn ar y gwaith ac y byddant yn adrodd i'r crwner ym mis Ionawr.

Ychwanegon nhw eu bod yn meddwl am deulu a ffrindiau Ms Foulkes yn ystod y cyfnod yma.

Pynciau cysylltiedig