Jac Morgan ymysg pedwar newid i Gymru i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Jac MorganFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac Morgan wedi creu argraff ers iddo symud o'r Scarlets i'r Gweilch ar gyfer tymor 2021/22

Bydd blaenasgellwr y Gweilch, Jac Morgan yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn fel un o bedwar newid i'r tîm gafodd gweir yn Nulyn.

Fe fydd Morgan, 22, yn cymryd lle Ellis Jenkins, tra bod newid arall yn y rheng-ôl wrth i Aaron Wainwright golli ei le fel wythwr i Ross Moriarty.

Mae gan Josh Adams anaf i'w goes, sy'n golygu fod Owen Watkin yn cymryd ei le fel canolwr.

Mae'r newid olaf ymysg yr olwyr, gydag Alex Cuthbert wedi'i ddewis yn hytrach na Johnny McNicholl ar yr asgell.

Fe fydd y capten Dan Biggar yn ennill ei 100fed cap i Gymru a'r Llewod, gyda'r gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 14:15 ddydd Sadwrn.

Bydd y canolwr Jonathan Davies yn cyrraedd yr un garreg filltir os yw'n dod oddi ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Ross Moriarty oddi ar y fainc i Gymru yn erbyn Iwerddon

Bydd Cymru'n ceisio cael eu pencampwriaeth yn ôl ar y trywydd cywir yn erbyn Yr Alban, wedi iddyn nhw gael eu trechu o 29-7 yn Iwerddon.

Mae Morgan - cyn-gapten tîm dan-20 Cymru - wedi creu argraff ers iddo symud o'r Scarlets i'r Gweilch ar gyfer tymor 2021/22.

Ef fydd yn gwisgo rhif 7 ddydd Sadwrn, tra bod Taine Basham yn newid ochr a gwisgo rhif 6.

Hon fydd gêm gyntaf Cuthbert, 31, ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers pum mlynedd.

Fe wnaeth yr asgellwr ymuno â'r Gweilch o Gaerwysg yn haf 2021, gan ailymuno â charfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alex Cuthbert ennill ei gap cyntaf ers pedair blynedd yng Nghyfres yr Hydref y llynedd

Y gêm brynhawn Sadwrn fydd gêm gartref gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, a bydd mesurau i geisio atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn Stadiwm Principality.

Bydd cwrw gwannach yn cael ei weini a bariau yn cau wedi hanner amser.

Daw'r mesurau yn dilyn nifer o ddigwyddiadau yn ystod gemau cyfres yr hydref y llynedd.

Tîm Cymru

Liam Williams; Alex Cuthbert, Owen Watkin, Nick Tompkins, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar (c), Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Taine Basham, Jac Morgan, Ross Moriarty.

Eilyddion: Dewi Lake, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Seb Davies, Aaron Wainwright, Gareth Davies, Callum Sheedy, Jonathan Davies.

Tîm Yr Alban

Stuart Hogg (c); Darcy Graham, Chris Harris, Sione Tuipulotu, Duhan van der Merwe; Finn Russell, Ali Price; Pierre Schoeman, Stuart McInally, WP Nel, Jonny Gray, Grant Gilchrist, Sam Skinner, Hamish Watson, Matt Fagerson.

Eilyddion: George Turner, Rory Sutherland, Zander Fagerson, Magnus Bradbury, Rory Darge, Ben White, Blair Kinghorn, Cameron Redpath.