Teyrnged i filwr o Gymru fu farw yng nghanolfan y Fyddin
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod milwr o dde Cymru wedi ei ddarganfod yn farw yng nghanolfan y Fyddin yn Sir Gogledd Efrog.
Cafwyd hyd i gorff Nicholas Hart, oedd yn 33 oed ac o Bentre'r Eglwys, ger Pontypridd, yng nghanolfan Catterick ddydd Sadwrn.
Roedd yr Highlander Hart yn aelod "poblogaidd a hoffus" o 4ydd Bataliwn Catrawd Frenhinol Yr Alban, ac yn un o ddau filwr o'r un ganolfan filwrol a fu farw dros y penwythnos.
Cafwyd hyd i gorff dyn 18 oed, oedd yn aelod o uned wahanol i'r Highlander Hart, ar draciau rheilffordd yn ardal Manceinion ddydd Sul.
Mae'r heddlu wedi dweud bod dim byd amheus ynghylch y ddwy farwolaeth ond bod y ddau filwr yn destun ymchwiliad.
Garsiwn Catterick yw canolfan hyfforddi fwyaf y Fyddin, a garsiwn mwyaf Ewrop.
Dechreuodd yr Highlander Hart, oedd yn cael ei alw'n Nicki, ei hyfforddiant milwrol gyda'r Fyddin Diriogaethol yn 2008, cyn ymuno â Chatrawd Frenhinol Yr Alban ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Roedd ymhlith y milwyr fu'n cefnogi trefniadau Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain cyn symud i'r Almaen.
Fe gafodd fedalau am wasanaethu yn Irac ac Afghanistan.
'Acen Cymreig amlwg yn fantais'
Talodd y Fyddin deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "milwr poblogaidd a hoffus", oedd "wastad â ffordd o lonyddu hyd yn oed y bobl fwyaf pigog trwy wneud iddyn nhw ochr ysgafnaf bywyd".
Ychwanegodd: "Roedd o broffesiynoldeb cyson, balchder personol a'r ymddygiad cyfeillgar yn ei wneud yn ddewis amlwg i helpu recriwtio aelodau i'r gatrawd.
"Fe gymrodd at y gwaith yn hawdd, ac wrth recriwtio ym mhellafoedd Yr Alban fe sylweddolodd bod ei acen Cymreig amlwg yn fantais, gan bod hynny'n denu pobl ato.
"Wastad yn gwenu, fe allai ei natur siriol a'i gynhesrwydd lenwi ystafell. Roedd yn gofalu am ei ffrindiau a'i deulu, a bydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei nabod."