Stad o dai 'i'r cyfoethog yn unig' yn destun dadlau
- Cyhoeddwyd
Dylai datblygiad tai yn Nyffryn Clwyd greu cartrefi "i'r gymuned i gyd" ac nid "dim ond i'r cyfoethog", yn ôl cynghorydd lleol.
Mae 40 o dai yn rhan o gynlluniau yn Llandyrnog ger Dinbych, a'r rhan fwyaf yn dai pâr neu unigol gyda thair neu bedair llofft.
Dywedodd Gwilym Evans, sy'n is-gadeirydd ar gyngor cymuned y pentref, bod gan bobl ifanc "ddim llawer o obaith" o brynu'r tai newydd posib.
Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal i'r prosiect, sydd wedi cael ei gyflwyno gan gwmni lleol Jones Bros.
Yn ôl eu dogfennau cynllunio, byddai'r tai yn "gyfraniad cadarnhaol tuag at ddatblygiad cynaliadwy" yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd bod y safle "wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl" a'u bod yn cydweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y cais yn dderbyniol.
Mae'r cyngor cymuned ymhlith y rheiny sydd wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r stad newydd, fyddai ar dir ger tai eraill ar y ffordd tua Llangwyfan.
"Y prif wrthwynebiad ydy eu bod nhw eisiau adeiladu naw o dai a'u ffrynt yma ar y ffordd, ffordd gul sydd efo llawer o draffig - tractors a bysus ac yn y blaen," meddai'r Cyng. Evans.
Ond mae'n credu bod "anhawster" hefyd o ran y cyfuniad o dai fyddai yno.
"Roedd disgwyl y bysai'r datblygiad yn rhannol yn fyngalos, ac yn dai dwy, tair, a phedair llofft, fel bod yna dai yno i'r gymuned i gyd, dim dim ond tai mawr i'r cyfoethog.
"Mae 'na alwad mewn ardaloedd fel hyn am fyngalos - hyd yn oed dau neu dri, mi fuasai'n help.
"Ac wrth gael byngalos, mae'n gwagu tai arall yn y gymuned, sy'n debyg o gymryd teulu."
Ers 2016, mae caniatâd cynllunio amlinellol mewn lle ar gyfer y safle, sydd hefyd wedi ei glustnodi ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych.
Ond bydd cynghorwyr yn cael craffu ar union fanylion y cynllun hwn cyn gwneud penderfyniad terfynol.
I rai yn y pentref, fel y cigydd Daniel Jones, dydy'r pryderon am faint y tai a mynediad i'r safle ddim yn canu cloch.
"Mewn pentrefi bach fel Llandyrnog, 'dan ni angen mwy o dai, a mwy o bobl i'r ysgol, i'r dafarn, i fusnesau fel fi," meddai.
Ychwanegodd bod dwy dafarn wedi cau yn ddiweddar, gan adael y pentref ag un dafarn a siop bentref sydd ar fin ailagor.
Mewn dogfennau mae cwmni cynllunio Caulmert, ar ran y datblygwyr, yn dweud y byddai'r cynlluniau yn "gyfraniad cadarnhaol tuag at ddatblygiad cynaliadwy" yn Sir Ddinbych ac yn "gyfle i gyfrannu at anghenion tai yr ardal".
Bydd 10% o'r datblygiad - pedwar tŷ - yn gartrefi fforddiadwy, fydd yn cael eu rheoli gan gymdeithas dai.
Dywedodd llefarydd ar ran Jones Bros bod "y cais ar hyn o bryd wedi cyrraedd y cam ymgynghori statudol ac rydym yn gweithio gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'r ymgynghorai statudol i sicrhau bod y cynllun a gyflwynwyd yn dderbyniol".
Ychwanegodd bod "y cyfnod hwn yn rhoi cyfle i bobl leol gyflwyno ymholiadau a sylwadau i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a fydd yn eu hystyried wrth benderfynu ar y cais cynllunio yn y man".
Ond ynghyd â'r cyngor cymuned, mae uwch swyddog cynllunio gyda Chyngor Sir Ddinbych wedi codi pryderon am y math o dai sydd dan ystyriaeth.
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad dywedodd Lara Griffiths nad ydy'r gymysgedd o dai yn "dderbyniol" ac na fyddai'n "ateb y galw" sydd yn y cylch.
Mae'r diffygion hynny'n golygu na fydd nifer yn lleol yn cael budd o'r datblygiad, yn ôl y Cyng. Evans.
"Yr un broblem ydy hi ag ym Mhen Llŷn - pobl ifanc efo gwaith lleol, a'r gwaith lleol ddim yn talu gymaint ag y gallan nhw ei gael yng Nghaer a Manceinion," meddai.
"Does ganddyn nhw ddim llawer o obaith prynu tŷ o'r safon yma."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dod i ben ar 15 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Medi 2021