Polisïau cynllunio yn 'gweithio'n erbyn pobl leol'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon fod polisïau cynllunio yn gweithio'n erbyn rhai pobl leol sy'n ceisio adeiladu tai o fewn eu cymunedau.
Mewn ardaloedd fel Pen Llŷn mae trigolion lleol yn teimlo'r straen ar y farchnad dai, gyda ffactorau fel y pandemig yn gwthio prisiau ymhellach y tu hwnt i afael llawer.
Ond tra fod yr argyfwng dai yn bell o fod yn broblem newydd, mae rhai o gynghorwyr y sir yn honni fod rhwystrau hefyd yn cael eu codi fel rhan o'r broses gynllunio.
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Gwynedd fod y broses o adolygu'r cynllun datblygu lleol - sy'n ffurfio polisïau cynllunio'r sir - wedi cychwyn.
'Swn i'm yn gallu prynu'
Daw'r anghydfod yn dilyn argymhelliad swyddogion i wrthod caniatâd i ddynes leol drosi hen dŷ i fewn i gartref fforddiadwy dwy lofft yn ei phentref genedigol.
Er fod y tŷ ym mhentref Llangwnnadl wedi bod yn wag ers dros hanner canrif ac yn fwy o adfail erbyn hyn, gobaith Catrin Williams yw gwneud cymaint o ddefnydd â phosib o'r waliau presennol.
Wedi'i leoli ar dir sy'n eiddo i'r teulu ac heb fod ymhell o'i chartref, yn ôl Catrin does ddim modd iddi brynu oherwydd natur y farchnad yn lleol.
"Dwi wedi'n magu yn Llangwnnadl, mae'n bwysig mod i'n gallu aros adra," meddai Catrin, sy'n 28.
"Swn i'm yn gallu prynu efo'r prisiau tai fel maen nhw ar y funud, does na'm byd o fewn fy ngafael i yn Llangwnnadl na fy milltir sgwâr yn Nhudweiliog chwaith.
"Dwi'm isio mynd rhy bell o adra, dwi'n gweithio'n Porthmadog... ond ddim isio mynd o gefn gwlad.
"Gafodd y pwynt ei godi yn y cyfarfod ella fod angen newid y polisïau a dwi'n gobeithio na dyna neuth ddigwydd rwan."
Dadl gynllunio
Ond daeth siom fis diwethaf' yn dilyn methiant i berswadio swyddogion Cyngor Gwynedd, oedd o'r farn fod y cais yn groes i bolisi.
Ymysg dadleuon y swyddogion dros wrthod oedd na all ei ddiffinio yn gyfreithiol fel tŷ gan fod cymaint o amser wedi pasio ers defnydd o'r fath.
Ond er argymhelliad y swyddogion, penderfyniad pwyllgor cynllunio'r sir oedd i ganiatáu'r cais, gyda sawl aelod o'r farn fod angen cefnogi pobl leol fel Catrin.
Yn ystod y cyfarfod dywedodd un o gynghorwyr Plaid Cymru Llŷn, Simon Glyn: "Yr unig ffordd i ail adfer bro mewn llefydd gwledig fel Llangwnnadl ydi chwilio am y math yma o adeilad.
"Dwi isio llongyfarch yr ymgeisydd am droi pob carreg ac i fod yn ddyfeisgar yn y ffordd mae hi wedi gwneud ei gorau glas i chwilio am ffordd i fyw yn ei bro ac aros adra."
Ychwanegodd: "Byddai o fudd i'r economi leol pe bai'r ymgeisydd yn cael y modd i fyw adra ym mro ei mebyd.
"Bydda gan yr ymgeisydd swydd lawn amser, o bosib deulu yna a phlant yn cynnal ysgolion lleol ac yn y blaen."
Ond oherwydd i'r pwyllgor fynd yn groes i'r argymhelliad, bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno yn y man yn dilyn cyfnod o gnoi cil a pharatoi adroddiadau gan gynnwys cymal 106.
'Does gynnon ni ddim dwy flynedd'
Yn ôl Gareth Williams, cynghorydd Llais Gwynedd dros ward Botwnnog, mae hi "bron yn amhosib" i rywun fel Catrin brynu oherwydd chwyddiant y farchnad mewn pentrefi fel Llangwnnadl.
Wedi siarad o blaid y cais, dywedodd wrth Cymru Fyw: "Yn amlwg dydi'r polisïau cynllunio ddim yn gweithio, wnaethon ni fynnu fod y cais yn mynd o flaen y pwyllgor cynllunio ac ry'n yn lwcus iawn fod 14 allan o 14 wedi'i gefnogi.
"Ond wnaeth y swyddog wedyn benderfynu fod angen iddo fynd i gyfnod gnoi cil, sy'n gofyn y cwestiwn yn fy marn i beth yw'r pwynt cael pwyllgor cynllunio, trafod a chael pleidlais ar gais pan mae'r hawl gan y swyddog beth bynnag ar ddiwedd y dydd a'r penderfyniad wedi'i wneud yn barod?
"Mae angen cefnogi llawer mwy ar bobl ifanc lleol, yma ym Mhen Llŷn, mae o'n dân ar groen llawer o bobl fod hi mor hawdd i bobl dros y ffin ddod yma, prynu tai, dymchwel nhw i'r ddaear ac yna codi plastai mawr yn eu lle nhw a wedyn mae'r cais yma gan ferch ifanc leol a gymaint o rwystrau yn cael eu rhoi o'u blaen hi.
"Mi ddoth un argymhelliad i Catrin (yn ystod y broses gynllunio) ella dylan nhw farchnata'r tŷ a trio'i werthu efo'r potensial am uned gwyliau.
"Ond mae hynny'n wallgofrwydd llwyr dydi? Mae'r peth yn hollol anghredadwy yn fy marn i."
'Angen adolygiad'
Y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng cynghorau Môn a Gwynedd sy'n ffurfio polisïau cynllunio'r ddwy sir.
Ond yn dilyn pwysau cynyddol ers ei fabwysiadu yn 2017 - er o drwch blewyn yn unig yng Ngwynedd - mae'r broses o fonitro'r cynllun wedi cychwyn yn swyddogol.
Er gwaethaf hyn, mae pryder fod y broses yn cymryd gormod o amser.
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: "Mae 'na bwysau ar y cyngor i adolygu y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, da ni di cael gwybod fod hi am gymryd tua dwy neu dair blynedd i adolygu hyn ond does gynnon ni ddim dwy flynedd, da ni mewn pandemig dai yma ar y funud.
"Da ni'n colli'n cymunedau a'n pobl ifanc am fod nhw methu aros adra, felly mae angen adolygu hwn rŵan, does dim amser i'w golli."
Adolygu cynllun
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel ym mhob achos, cafodd y cais ei ystyried yn fanwl ac yn unol â'r dystiolaeth a disgrifiad y datblygiad a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a hynny yng nghyd-destun y polisïau cynllunio'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
"Roedd yr argymhelliad a gyflwynwyd i'r pwyllgor i wrthod am resymau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
"Penderfynodd aelodau'r Pwyllgor Cynllunio i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i adroddiad pellach i gael gwybodaeth am fforddiadwyedd y tŷ.
"Felly, yn unol â'r trefniadau arferol lle bo penderfyniad yn groes i bolisïau cynllunio'r Cyngor, mae'r cais yn destun cyfnod cnoi cil cyn y bydd yn dychwelyd gerbron aelodau am benderfyniad terfynol."
O ran y polisïau cynllunio, aeth ymlaen i ddweud bod "y cyngor ar hyn o bryd wedi cychwyn ar y broses o adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn unol â'r gofynion statudol, fydd yn arwain at baratoi Cynllun Diwygiedig.
"Bydd hyn yn gyfle i ailedrych ar yr holl bolisïau cynllunio presennol a byddwn yn dilyn camau statudol ar gyfer paratoi'r Cynllun Diwygiedig. Bydd y camau yma'n cynnwys ymgynghoriadau cyhoeddus a bydd yn ofynnol i'r cynllun fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017