M4: Plentyn arall wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen tair oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd ddydd Sadwrn 5 Chwefror, yn ôl ei deulu.
Bu farw'r bachgen bum niwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar ôl derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gadarnhaodd Heddlu Gwent bod merch pedair oed, Gracie-Ann Wheaton, wedi marw yn dilyn yr un gwrthdrawiad.
Cafodd dyn a menyw eu hanafu hefyd.
Cafodd dyn 41 oed o Groeserw, Castell-nedd Port Talbot, ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Bu'n rhaid cau'r draffordd yn gyfan gwbl am gyfnod rhwng Cyffordd 28, Parc Tredegar a Chyffordd 30, Porth Caerdydd ddydd Sadwrn 5 Chwefror.
'Bachgen bach hyfryd a chariadus'
Dywedodd aelod o deulu'r bachgen wrth BBC Cymru bod y sefyllfa'n "dorcalonnus".
"Roedd e'n fachgen bach hyfryd, cariadus iawn. O'r funud y byddai'n cerdded i mewn i'r ystafell, byddai'n goleuo'r lle.
"Mae ei fam yn dal yn yr ysbyty - fydden ni ddim yn dymuno hyn ar unrhyw un, ry'n ni wedi'n synnu," ychwanegodd.
"Mae'r nifer o bobl sydd wedi cysylltu wedi bod yn anghredadwy. Mae'n adeg trist ac mae wedi effeithio ar bawb."