Dyn, 35, wedi marw tra'n cerdded ger Tonyrefail

  • Cyhoeddwyd
car heddlu ar yr A4119 ac arwydd heol ar gau

Mae dyn 35 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4119 ger Tonyrefail yn oriau mân bore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffordd rhwng cylchfan Coed-Elái a chylchfan Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf tua 03:00 bore dydd Sul 13 Chwefror.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn o ardal Pentre, oedd yn cerdded ar y pryd, wedi marw yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd nwyddau trymion.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau wrth i swyddogion barhau â'u hymchwiliadau.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig