Tamprwydd tŷ'n 'waeth yn lle gwell' ar ôl insiwleiddio

  • Cyhoeddwyd
Plastr yn codi

Mae gŵr a gwraig o Wynedd yn dweud eu bod nhw'n poeni am gynhesu eu tŷ dros y misoedd nesaf oherwydd sgil effeithiau insiwleiddio waliau eu cartref bron i 20 mlynedd yn ôl.

Manteisiodd Alwyn a Delyth Williams ar gynllun insiwleiddio waliau ceudod (cavity wall insulation) Llywodraeth y DU yn 2004, ond ers hynny maen nhw wedi profi trafferthion "difrifol" gyda lleithder, tamprwydd a waliau'n suddo.

Maen nhw wedi gwneud sawl cais am gymorth gan y cwmni gwarantu Cavity Insulation Guarantee Agency (CIGA), ond yn honni fod y cwmni wedi achosi mwy o broblemau yn sgil eu gwaith.

Mae CIGA yn gwrthod yr honiadau hynny gan ddweud eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r cwpl ac mai gwaith cynnal tŷ gwael sydd ar fai.

Mae'r AS lleol yn dweud bod "miliynau o bobl" wedi cael profiadau tebyg, gan alw ar y llywodraeth i wneud mwy i helpu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr y tŷ yn "cael ni lawr yn ofnadwy" meddai Mrs Williams

I Alwyn, 79, a Delyth, 73, mae'r sefyllfa bellach yn annioddefol.

Ar wal sy'n dalcen i'r tŷ ym Mhenisarwaun, mae lleithder a thamprwydd yn achosi i baent a phlastr ddisgyn oddi ar y waliau, ac i rai darnau suddo.

"Lawr y grisiau mae hi waethaf", meddai Mrs Williams.

"Mae'r plastar yn dod oddi ar y waliau, mae'r paent 'di byblo, pan ma' hi'n bwrw yn hegar, mae dŵr yn pistyllio i mewn drwy ffenest y gegin - ma' hi'n ofnadwy yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae plastr a phaent yn dod oddi ar waliau'r tŷ ym Mhenisarwaun

Gyda'r problemau'n parhau i waethygu mae'r pensiynwyr yn poeni'n arw am y cynnydd mewn prisiau tanwydd ym mis Ebrill.

"Mae'n cael ni lawr yn ofnadwy", meddai Mrs Williams.

"'Di'r ddau ohonom ni ddim yn dda, mae gan Alwyn asthma a dwi innau efo Parkinson.

"Mae'n boen - 'da ni isio gwres gan fod ni'm yn dda, a lle cynnes.

"Mae'n rhaid i ni fod yn gynnes ond beryg fydd rhaid i rywbeth arall fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Williams bod y cwpl yn ceisio defnyddio llai o'r gwres canolog

Mae'r ddau yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y gegin bellach, gan fod stof wedi ei gynnau drwy'r dydd.

"'Da ni just yn cynhesu gweddill y tŷ cyn gwely wedyn", meddai Mr Williams.

"'Da ni 'di gweithio ar hyd ein hoes a dyma 'da ni'n cael ar y diwedd - oedda' ni fod i fwynhau ein hunain!"

Aeth y cwmni a wnaeth y gwaith gwreiddiol i dŷ Mr a Mrs Williams yn fethdalwyr rai blynyddoedd yn ôl, a rôl cwmni CIGA oedd darparu gwarant 25 mlynedd i gwsmeriaid a dderbyniodd gwasanaeth o'r fath.

Ond mae'r cwpl yn dweud fod y cwmni wedi gwneud pethau'n waeth wrth weithio ar eu tŷ.

"Maen nhw 'di gwneud golwg ar ben y grisiau, mae'r craciau wedi mynd ar hyd y tŷ i gyd", meddai Mr Williams.

"Ma'n mynd yn waeth yn lle gwell ar ôl iddyn nhw fod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwr y tŷ cyn i'r gwaith insiwleiddio gael ei gwblhau yn 2004

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi ysgrifennu at ddwsinau o gyrff a gwleidyddion yn galw am gymorth, ond bod y sefyllfa'n parhau yn annioddefol.

Yn ôl Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, mae "miliynau o bobl" a gafodd gwaith o'r fath yn parhau i brofi trafferthion, ac mae'n galw unwaith yn rhagor ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i adfer y sefyllfa.

"Gyda phrisiau ynni yn cynyddu'n aruthrol mae'n rhaid i'r llywodraeth edrych ar ddigolledu'r perchnogion hyn ar unwaith", meddai.

"Mae'r teuluoedd hyn wedi edrych ar bob posibilrwydd a dydyn nhw heb gael unrhyw gydnabyddiaeth na help gan Lywodraeth Prydain."

'Cwmni wedi mynd tu hwnt i'r gofynion'

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran CIGA eu bod nhw'n fodlon eu bod nhw wedi mynd y tu hwnt i'w gofynion er mwyn helpu'r teulu.

Yn ôl CIGA mae eu harolygwyr yn dweud bod ffenestri gwael y cartref wedi galluogi i ddŵr ddod i mewn i'r wal ceudod gan achosi trafferthion, ac nid yw'n ganlyniad i fethiant y deunyddiau na'r gwaith gwreiddiol.

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod CIGA wedi cyflawni gwaith ychwanegol i dynnu insiwleiddio allan o un wal, er nad oedd rheidrwydd gwneud, ond gwnaethpwyd er mwyn ceisio helpu'r teulu.

Mae'r cwmni'n dweud eu bod nhw bellach wedi dod â'r gwaith ar y tŷ i ben, a bod achos y teulu wedi cau gan feio trafferthion ffenestri'r teulu a gwaith cynnal gwael.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod gan insiwleiddio "ran allweddol wrth leihau allyriadau carbon a chadw prisiau ynni i lawr, a dyna pam rydym yn sicrhau bod yr holl waith a wnaed dan gynlluniau'r llywodraeth yn cyrraedd y safonau uchaf posib".

Ychwanegodd y llefarydd bod rhaid i unrhyw waith gael ei gwblhau gan weithwyr cydnabyddedig, sy'n cynnig gwarant 25 mlynedd.

Pynciau cysylltiedig