Panorama: Gwartheg yn cael eu cam-drin ar fferm yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ffilmio cudd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffilmio cudd ei wneud gan elusen Animal Equality

Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai

Mae rhaglen BBC Panorama wedi cael gafael ar ffilm gudd sy'n dangos gwartheg yn cael eu cam-drin ar fferm laeth fawr yng Nghymru.

Fe gafodd y ffilmio ei wneud yn ystod cyfnod o ryw ddau fis, gan elusen Animal Equality.

Mae'r fideo yn dangos gwartheg yn cael eu taro a'u cicio.

Mae cyfreithwyr ar ran perchennog y fferm wedi dweud y bydd unrhyw weithiwyr sy'n cam-drin anifeiliaid yn cael eu disgyblu.

'Yn debygol o fod yn dorcyfraith'

Ar un achlysur mae modd gweld un o'r gweithwyr yn bwrw buwch yn ei phen â rhaw ac ar achlysur arall mae buwch yn cael ei chicio yn ei stumog.

Mae'r fideo hefyd yn dangos buwch sy'n ddifrifol wael yn cael ei gadael dros nos, cyn cael ei difa, er bod milfeddyg wedi dweud y dylid fod wedi difa'r anifail yn syth.

Yn ôl Ayesha Smart, bargyfreithwraig sydd â phrofiad o erlyn mewn achosion o gam-drin anifeiliaid, mae'n ymddangos bod yr hyn sydd i'w weld ar y fideo yn debygol o fod yn dorcyfraith.

Mae rhaglen Panorama wedi cysylltu â pherchennog y fferm.

Dywedodd ei gyfreithwyr y byddai proses ddisgyblu yn dechrau'n syth os ydy'n dod i'r amlwg bod gweithwyr wedi bod yn bwrw neu'n cicio anifeiliaid.

Dywedodd y cyfreithwyr hefyd bod y fferm dan sylw yn parhau i fuddsoddi yn y busnes - yn benodol mewn mesurau iechyd a lles anifeiliaid.

Mae elusen Animal Equality wedi gofyn i'r awdurdod lleol am leoliad y fferm er mwyn cynnal ymchwiliad.

Mae cynhyrchwyr y rhaglen yn pwysleisio mai dim ond un o gannoedd o ffermydd llaeth Cymru sy'n ymddangos ar y rhaglen, ac mae yna 12,000 o ffermydd llaeth yn y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwahanu lloi oddi wrth eu mamau yn broses arferol ar ffermydd llaeth

Hefyd yn cael sylw'r rhaglen mae cynhyrchu llaeth ar lefel enfawr ac mae'r lluniau yn dangos arfer sydd yn ddadleuol - sef y drefn o wahanu lloi newydd anedig o'u mamau.

Mae hyn yn rhan annatod o gynhyrchu llaeth ar lefel sylweddol ac mae'n digwydd yn eang.

Ond mae ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid yn feirniadol o'r arfer gan ddweud ei fod yn achosi trawma i fuchod.

Dadl y diwydiant llaeth yw bod ganddyn nhw rhai o'r safonau uchaf yn y byd o ran lles anifeiliaid, a bod yr arfer o wahanu lloi o'u mamau yn digwydd er lles yr anifeiliaid.

Ar y rhaglen bydd NFU Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod y gall yr arfer fod yn anodd i'r cyhoedd ei ddeall.

Fe fydd sylw hefyd i effaith pris isel llaeth.

Ar y rhaglen bydd undeb yr NFU yn dweud y byddai codi pris llaeth geiniog neu ddwy y litr yn golygu y gallai ffermwyr allu gwario mwy ar les eu gwartheg.

Mae ffermwyr wedi bod yn derbyn ychydig bach yn fwy am eu llaeth dros y misoedd diwethaf ond fe fydd y rhaglen yn dangos nad oes lot o newid wedi bod yn y pris mae pobl yn ei dalu am laeth mewn archfarchnadoedd dros y blynyddoedd a bod pobl wedi dod i arfer â llaeth cymharol rhad.

Mae rhaglen Panorama i'w gweld ar BBC One Wales am 22:35 nos Lun.

Pynciau cysylltiedig