Emiliano Sala: Dim tystiolaeth gan beilot arall

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Emiliano Sala/Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gwest Emiliano Sala bara am bum wythnos

Aflwyddiannus fu cais teulu Emiliano Sala i glywed tystiolaeth gan beilot, a fyddai wedi dweud na fyddai wedi hedfan yr awyren a blymiodd ym Môr Udd gan ei bod yn "anniogel".

Bu farw'r pêl-droediwr 28 yn Ionawr 2019 wrth iddo gael ei gludo o Nantes yn Ffrainc i'w glwb newydd, Caerdydd.

Cafwyd hyd i'w gorff y mis canlynol ond ni chafwyd hyd i gorff David Ibbotson y dyn a oedd yn hedfan yr awyren.

Dywedodd y crwner y byddai tystiolaeth gan beilot arall yn ailddweud yr hyn sydd wedi cael ei glywed eisoes.

Wrth siarad cyn y cwest yn Llys y Crwner Bournemouth dywedodd uwch grwner Dorset, Rachael Griffin, bod y wybodaeth yna eisoes wedi ei chyflwyno gan y Gangen sy'n Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB).

Roedd y peilot ymhlith pump tyst ychwanegol yr oedd tîm cyfreithiol y teulu wedi gobeithio a fyddai'n gallu rhoi mwy o wybodaeth am gyflwr yr awyren cyn hedfan.

'Nodyn gonest'

Dywedir bod y peilot dan sylw wedi bod yn cyfathrebu â Mr Ibbotson ar 21 Ionawr 2019 - oriau cyn i'r awyren blymio, a hynny wrth i Mr Ibbotson geisio trwsio ambell ddiffyg yr oedd wedi ei brofi ar yr awyren o Gaerdydd i Nantes.

Dywed Matthew Reeve, bargyfreithiwr teulu Sala, bod y peilot wedi ysgrifennu "nodyn gonest" am deimladau Mr Ibbotson am yr awyren.

"Dyna'r peth agosaf sydd gennym i dystiolaeth ganddo," ychwanegodd Mr Reeve.

Daeth y crwner i gasgliad bod yr adroddiad gan yr AAIB yn "gyflawn" ac na fyddai'r pum tyst ychwanegol yn cael eu galw.

Roedd brawd Emiliano Sala, Dario, yn bresennol yn y gwrandawiad wedi iddo hedfan o'r Ariannin ar gyfer dechrau'r cwest.

Yn gwmni iddo roedd cyfieithydd a chyfreithiwr o'r Ariannin.

Hefyd yn bresennol roedd Nora Ibbotson, gwraig David Ibbotson, a'u mab Bradley.

Mae disgwyl i'r cwest llawn bara am bum wythnos.

Pynciau cysylltiedig