Hunanladdiad: Her dau ddyn ifanc er cof am ffrind
- Cyhoeddwyd
"Blwyddyn gynta' prifysgol, o'n i 'di colli ffrind i iechyd meddwl," meddai Aled Hughes o Fae Penrhyn.
"O'dd o'n sioc fawr colli ffrind… ac i fod yn onest, o'n i ddim yn gwybod gymaint am iechyd meddwl ar y pryd."
Mae'n bedair blynedd bellach ers i ffrind Aled, Alastair McDonald, farw drwy hunanladdiad.
Dros yr haf, bydd Aled yn un o ddau bêl-droediwr ifanc o'r gogledd fydd yn dringo Kilimanjaro i godi arian i'r elusen iechyd meddwl Mind.
Yn ôl Meilyr Williams, fydd yn ymuno ag Aled ar y daith, mae'r her yn gyfle perffaith i ledaenu'r neges "bod angen siarad am y petha' 'ma".
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd y dynion ifanc fod cychwyn sgwrs am iechyd meddwl yr un mor bwysig â chodi arian wrth fynd ati i gyflawni'r her.
"Weithiau ma'n anodd i bobl ifanc a bobl o bob oedran 'neud really, a rhoi eu teimladau allan yna, ond dwi'n meddwl bod Mind yn enwedig yn rywle lle ma' pobl yn gallu mynd i siarad," meddai Meilyr.
Mae'r dynion ifanc yn cyfrannu llawer i'w clybiau pêl-droed lleol, Bangor 1876 a Llanrwst Unedig ac mae'r clybiau wedi eu cefnogi i hel arian a chychwyn sgwrs ynghylch iechyd meddwl.
"Mae'r clwb 'di helpu fi lot," meddai Aled o Fae Penrhyn, sy'n hyfforddwr i Fangor 1876.
"'Da ni hefyd 'di dechrau siarad fel clwb… 'da ni 'di 'neud grwpiau i siarad am iechyd meddwl, a ma'r chwaraewyr 'di dechrau siarad efo'i gilydd lot mwy."
Ychwanega Aled bod "ffordd bell i fynd tan mae pethau'n iawn" o ran iechyd meddwl o fewn pêl-droed.
"Ond mae o'n dda gweld bod pobl yn dechra' siarad… mae pethau'n mynd y ffordd gywir."
Wrth geisio annog eraill i feddwl mwy am eu hiechyd meddwl, dywed y ddau eu bod wedi dod i ddysgu mwy amdanyn nhw eu hunain hefyd.
"Dwi'n berson reit positif fy hun, dwi'n trio roi positivity allan yna i bobl o 'nghwmpas i 'lly," meddai Meilyr o Eglwys-bach yn Sir Conwy. sydd yn aelod o bwyllgor Llanrwst.
Ond mae'r her wedi gwneud iddo feddwl "ychydig mwy am iechyd meddwl pobl eraill - a fy hun hefyd," meddai.
Roedd y bechgyn i fod i gyflawni'r her ddwy flynedd yn ôl, a bu'n rhaid ei gohirio yn sgil y pandemig.
Erbyn hyn, maen nhw wedi codi dros £5,000 i Mind - ond i'r dynion ifanc, mae mwy i'r her nag arian.
"Dwi'n meddwl 'ma hwn just yn ddarn o siwrne lot mwy," meddai Aled.
"'Da ni'n codi arian, sydd yn grêt, ond mae mwy amdan codi ymwybyddiaeth, a 'dan ni dal yn mynd i gario 'mlaen yn 'neud hwnna lot ar ôl yr her."
Roedd colli Alastair yn sioc i Aled a'i neges glir i eraill yw: "Dwi'n meddwl mae'n anodd iawn gwybod beth sy'n mynd ymlaen ym meddwl rhywun arall, so mae o hyd yn bwysig iawn siarad efo rywun.
"Jest checio i fewn, jest gofyn sut ma' nhw. Mae'n 'neud lot o wahaniaeth."
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021