Elusen iechyd meddwl i ffermwyr yn 'methu ehangu' heb gyllid
- Cyhoeddwyd
Mae elusen iechyd meddwl sy'n cefnogi ffermwyr Cymru yn dweud na fyddan nhw'n gallu ehangu eu gwasanaethau heb arian ychwanegol.
Bedair mlynedd ers lansio Sefydliad DPJ, mae'r elusen yn "dal i weld galwadau yn cynyddu," ac felly hefyd y gost.
Ers ei sefydlu yn Sir Benfro yn Hydref 2019, mae gwirfoddolwyr y llinell ffôn gyfrinachol 'Rhannwch y Baich' bellach wedi trefnu cwnsela i fwy na 500 o bobl ar draws Cymru.
Yn ôl un ffermwr o Ynys Môn, mae pobl yn y byd amaeth yn llai tebygol o ofyn am help a siarad am iechyd meddwl.
Fe ofynnodd Tomos Jones, ffermwr ifanc o ardal Gwalchmai, Ynys Môn am gymorth gan feddyg ynglŷn â'i iechyd meddwl. Roedd gwneud y cam cyntaf yn heriol.
"Es i at ddoctor a 'ma hwnna yn gofyn wrtho fi os o'n i eisiau mynd ar dabledi neu gael counselling, ond ar y pryd o'n i ddim eisiau siarad," eglurodd.
"O'dd o'n ddigon i fi i fynd at ddoctor i ddweud y gwir.
"Nes i gymryd tabledi a ma' nhw'n cymryd tua mis i weithio.
"A wedyn, o'dd o'n teimlo'n... O'dd o'n deimlad od. Cyfaddef i dy hun bo' chdi wedi bod at ddoctor a bo' chdi hefo'r... Ie... bo' chdi'n dioddef 'lly."
Mae Tomos bellach yn siarad yn agored am ei brofiadau gyda'i iechyd meddwl yn dilyn meddyginiaeth a chwnsela.
"O'dd bob dim jyst yn stressio fi allan. O'dd jyst rhyw dwrw, rhywbeth... o'n i ddim yn gyfforddus yn gweithio, ta o'n i ddim yn gyfforddus yn y tŷ.
"O'n i ddim eisiau 'neud dim byd. O'n i yn blino. O'n i yn cysgu. 'Swn i'n cysgu 12 awr, a 'swn i dal 'di blino.
"O'n i 'di 'laru erbyn y diwedd."
'Weithiau ti angen gofyn am help'
Mae Tomos nawr yn annog pobl eraill sy'n wynebu heriau gyda'u iechyd meddwl i siarad.
"Ma' ffermwyr mwy tough ar ei hun na neb arall. Hyd yn oed 'sa nhw'n torri llaw, ma' nhw jyst yn rhoi rhyw bandage arno fo a ma' nhw'n cario 'mlaen.
"Ond, ie, weithiau ti angen gofyn am yr help. Ti angen o, 'de."
Un a sylwodd ar yr angen am wasanaethau iechyd meddwl i bobl ym myd amaeth Cymru oedd sylfaenydd DPJ, Emma Picton-Jones.
Sefydlodd yr elusen ar ôl marwolaeth ei gŵr, Daniel, drwy hunanladdiad.
Pedair blynedd yn ddiweddarach, mae Ms Picton-Jones yn dweud na fyddai "erioed wedi dychmygu y byddai'r syniad o ddarparu cwnsela am ddim i'r rhai yn y gymuned amaethyddol wedi mynd mor bell ag y mae".
"Rwyf yn hynod falch o'r gwasanaeth hwn, mae gwybod bod gan bob ffermwr yng Nghymru fynediad at gwnsela am ddim, boed gartref, ar y fferm neu yn yr ardal leol yn rhywbeth na alle' ni fod wedi breuddwydio amdano erioed."
Gyda thua 80 o wirfoddolwyr, mae'r llinell ffôn a thecst ar gael 24 awr y dydd a'r cyfan yn gwbl gyfrinachol.
Mae'r gwirfoddolwyr yn gallu cyfeirio pobl sy'n gofyn am help i gael cymorth o fewn amser byr.
Un sy'n gwirfoddoli yw Elen Williams, Swyddog Marchnata, Ymgysylltu a Gweinyddu Sefydliad DPJ, sy'n dweud bod y niferoedd sy'n gofyn am help gan yr elusen yn cynyddu.
Dywedodd: "Mae'r niferodd yn dal i godi a dros y misoedd diwethaf 'efo Covid a Brexit a'r ansicrwydd am beth sydd i ddod yn y dyfodol, mae'n rhoi pwysau meddwl mawr ar unigolion - a ddim jyst hynny, ma' na bob math o broblemau ma' pobl yn mynd drwy.
"Unigrwydd, problemau teulu, ffraeo 'efo cariad, ma' pob peth yn gallu effeithio arnoch chi i deimlo'n isel a mae'n bwysig bo'ch chi'n cymryd yr help pan 'dach chi angen o."
'Ddim yn ddigon parod i ofyn am yr help'
Fel ffermwr ei hun, mae Elen yn dweud fod pobl yn y byd amaethyddol yn fwy tebygol o beidio gofyn am help.
"Dwi'n meddwl bo' pobl amaethyddol ddim yn ddigon parod i ofyn am yr help 'na achos ma' nhw'n fodlon bo' nhw'n gallu neud o'u hunain, yn enwedig ffermwyr cefn gwlad sydd wrach yn unig a ddim hefo pobl i droi at.
"Mae'n bwysig iawn bo' nhw'n gallu troi at rywun, os yw nhw yn y gymuned neu ni fel DPJ, i allu ofyn am help."
Edrych i'r dyfodol
Hyd yma, mae wedi costio dros £150,000 i gynnal y gwasanaeth cwnsela.
Gyda'r elusen yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o gynnig cymorth i bobl, maent yn dal i chwilio am ffyrdd o ehangu eu gwasanaethau.
Maen nhw'n gofyn i bobl "ledaenu'r gair am linell gymorth Rhannwch Y Baich" drwy arddangos posteri, taflenni, sticeri car, trelar a bêls.
Gallwch eu ffonio am ddim ar 0800 587 4262 neu anfon neges destun ar 07860 048 799.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020