Agor ffordd osgoi yr A487 Caernarfon a Bontnewydd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd osgoi CaernarfonFfynhonnell y llun, AFP

Bydd ffordd osgoi yr A487 Caernarfon a Bontnewydd yn agor i draffig ddydd Gwener, 18 Chwefror.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y cynllun gwerth £139m wedi'i gwblhau ar amser gan bod y gwaith wedi parhau gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch yn eu lle.

Fe gafodd y ffordd sêl bendith ym Mai 2018 wedi misoedd o ymgyrchu gan gynghorwyr a thrigolion lleol.

Mae'r ffordd newydd yn chwe milltir (9.7km) o hyd a'r nod yw ceisio lleihau tagfeydd yn yr ardal yn ystod oriau brig.

Yn 2018 dywedodd ysgrifennydd yr economi ar y pryd, Ken Skates, y byddai'r datblygiad yn dod â "llawer o fanteision i'r ardal".

"Bydd y ffordd osgoi yn helpu i leihau tagfeydd traffig, gwella ansawdd yr aer a lleihau sŵn o gerbydau modur yng Nghaernarfon, Bontnewydd a phentrefi cyfagos," meddai.

"Drwy hyn, bydd yn ein cymunedau a'n hamgylchedd yn fwy iach."

Dywedodd y byddai'r ffordd osgoi hefyd yn gwella cysylltiadau ag ardaloedd twristaidd fel Pen Llŷn.