Cyfnod 'cyffrous' ar y gweill i felinau gwlân Cymru
- Cyhoeddwyd
"Wedd ordors arlein wedi jwmpo lan, i'r pwynt ble ro'dd hi'n anodd i ni cadw lan gyda'r ordors i fod yn onest."
I Eifion Griffiths a chwmni Melin Tregwynt yn Sir Benfro, doedd Covid ddim yn gymaint o ofid ac y gallai fod i'r busnes, gyda gwerthiant ar i fyny.
Ond erbyn hyn, ag yntau'n 67, mae Eifion a'i wraig Mandy eisiau camu'n ôl.
Gyda'r busnes yn gwneud yn dda gyda gwerthiant arlein, a'r gwehyddu blancedi a chynnyrch cartref yn ôl ar waith, mae'n teimlo fel amser da i drosglwyddo'r awenau.
Fe fyddan nhw'n gwerthu'r cwmni i ymddiriedolaeth, a'r gweithwyr fydd yn berchen ar y busnes, ond bydd Eifion Griffiths dal wrth law yn y ffatri i gynghori a meithrin gweithwyr newydd.
Pum melin ar ôl
"I fi, nawr yw'r amser i ni weld beth y'n ni'n neud nesa'", meddai.
"Ac un o'r pethe i 'neud yw edrych ar y busnes a gweld ble ry'n ni'n mynd yn y dyfodol, ac i ni yr employee ownership trust yw'r ffordd.
"Mae wedi dangos ei fod e'n fwy proffidiol i bobl. Ma' pobl yn gweithio'n fwy caled achos maen nhw berchen y busnes. Mae'n fwy hawdd i redeg e a mae'n amser i'r wraig a fi stepo 'nôl tamed."
Yn 1926, roedd 217 o felinau gwlân ar waith yng Nghymru. Erbyn hyn, dim ond pump sydd.
Melin Teifi yw un o'r rheiny, busnes sefydlodd y perchennog Raymond Jones gyda'i wraig yn dilyn cau ffatri wlân Cambrian.
"'Wi yn y diwydiant 'ddar '64. Ffatri Cambrian o'dd hi pry'ny. Ro'n ni 'ma tan sbo '81. '81 gaeodd y Cambrian fel ffatri.
"Yna dechreuon ni Melin Teifi, fi a'r wraig Diane. O'n i yn busnes y gweu, o'dd hi yn busnes y gwinio.
"Brynon ni pedwar gwŷdd... Amser gaeodd ffatri Cambrian, o'n i'n meddwl bo hi'n bwysig i gadw gwlanen i fynd."
Ar ôl cyfnod anodd yn yr 1980au a thu hwnt, erbyn hyn mae galw mawr am ddeunyddiau gwlân a Melin Teifi yn gweld yr un cynnydd mewn gwerthiant â Melin Tregwynt.
"Dros y 10 mlynedd ddwetha, ma' pethe wedi troi a mae mwy o alwad wedi bod, a ma' digon i gael da ni, yn arbennig gan bod tapestry wedi dod 'nôl mewn i ffasiwn, blancedi yntyfe."
Ac yntau erbyn hyn "wedi gweithio 10 mlynedd yn fwy na dylen i fod wedi ymddeol", mae Raymond Jones hefyd yn ystyried y dyfodol.
Mae Melin Teifi'n trafod rhoi'r gofal am y gwaith i'r Amgueddfa Wlân, sydd fwy neu lai ar yr un safle a'r felin yn Felindre, ger Llandysul.
"Yn ystod y blynydde d'wetha 'ma, ma' mwy o alwad i gael a dyle bod mwy o bobl yn y diwydiant.
"Ma boeti bod pob un fan hyn yn ei 60au a mlaen. 'Sdim lawer o bobl ifanc i ga'l.
"Mae'r amgueddfa draw fan'na, ma lot o bobl ifancach i ga'l 'da nhw, maen nhw'n mynd i gymryd 'mlaen yn slow bach a dod miwn fan hyn i ddysgu.
"A falle trosglwyddwn ni'r cyfan yn gros yn y diwedd. Ond am y pryd, y'n ni'n cario mlaen am dipyn bach 'to."
Un o'r "bobl ifancach" yn yr amgueddfa yw Jay Jones, crefftwr dan hyfforddiant sy'n teimlo'n gryf iawn am gadw'r traddodiad gwlân yng Nghymru i fynd.
"'Wi moyn cadw hanes Cymru yn fyw ac ma' gwlân yn bwysig i Gymru," meddai. "Byddai'n drist i golli'r holl hanes."
Ac mae hen hanes i'r diwydiant gwlân yn Nyffryn Teifi a'r cynnyrch ar un adeg yn cael ei allforio ar hyd a lled y byd.
Yr ardal hon oedd yn un o'r canolfannau pwysicaf i'r diwydiant tecstiliau yn y 19eg a'r 20fed ganrif.
Ond mae Jay Jones yn edrych i'r dyfodol gyda tipyn o hyder.
"Mae pobl moyn pethau sy'n para'n fwy hir. Ac mae gwlân a pethau sy' wedi cael eu creu mâs o wlân yn para'n fwy hir.
"Mae'r bobl ni'n siarad â nhw ddim moyn dillad sy' jyst am cwpl o flynyddoedd.
"Maen nhw moyn pethau sy'n adnewyddadwy a bydd nhw'n edrych 'nôl i wlân mwy. Felly falle bydd y dyfodol yn well i wlân a'r diwydiant yma."
Rheolwr yr amgueddfa yw Ann Whittall, sydd hefyd yn gweld dyfodol llewyrchus i'r diwydiant gwlân - os yw'r traddodiad yn cael ei gadw'n fyw.
"O ran ni yn yr amgueddfa ni'n meddwl bod ni'n mynd mewn i amser cyffrous iawn", meddai.
"Ma' Covid wedi newid y ffordd ma pobl falle yn meddwl am beth maen nhw'n prynu, y cynnyrch maen nhw'n prynu, ochr cynaliadwyaeth o'r cynnyrch.
"A hefyd… ma' le ma' pethe wedi cael eu creu yn dod yn bwysig. Ma tîm o bedwar crefftwr gyda ni yn yr amgueddfa a ni'n dechre cydweithio gyda Raymond i wneud yn siŵr bod ni'n cadw'r sgilie hyn i fynd yn y dyfodol.
"Fi'n credu ma pethe'n dechre troi. Ma pobl yn dod yn ymwybodol os nad yn ni'n neud rh'wbeth am gadw'r sgilie hyn nawr bydd hi wedi mynd yn rhy hwyr.
"Ma' technoleg yn newid, ma' ffordd newydd o neud pethe. Ond mae'n bwysig bo' ni'n cofnodi'r sgilie traddodiadol sy' gyda ni yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020