Beirniadu Cyngor Môn wedi gwrthdrawiad cwch a beic dŵr
- Cyhoeddwyd
Roedd rheolaeth Cyngor Ynys Môn o ddiogelwch ar y môr yn ddiffygiol adeg gwrthdrawiad angheuol rhwng cwch a beic dŵr ar Afon Menai yn Awst 2020, meddai adroddiad.
Bu farw Jane Walker, 52 o Sir Stafford, yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Afon Menai ger Porthaethwy.
Roedd hi yno ar wyliau gyda'i gŵr ac yn aros mewn carafan ar yr ynys.
Mae'r adroddiad, dolen allanol gan y gangen sy'n ymchwilio i ddamweiniau ar y môr (MAIB) yn nodi bod gan y cyngor system o reoli diogelwch ar y môr ond bod y rheolaeth leol ohoni yn annigonol.
Roedd diffygion o ran adnoddau, asesiad risg i ddefnyddwyr hamdden a neilltuo pwerau i reoli dyfroedd, meddai.
Dywed Cyngor Ynys Môn eu bod yn derbyn yr argymhellion ac eisoes yn eu gweithredu.
Mae'r adroddiad yn nodi bod y cwch RIB Rib Tickler a'r beic dŵr yn teithio'n rhy agos i'w gilydd ar gyflymder uchel, ac nad oedd y gyrwyr yn gwybod beth oedd bwriad y naill a'r llall.
Nodir bod y beic dŵr yn aml yn torri ar draws llwybr y cwch a bod y cwch yna wedi newid cyfeiriad gan wrthdaro ar gyflymder uchel.
Roedd y beic dŵr yn cael ei yrru gan nith ffrind i'r teulu a oedd yn 17, a'r cwch gan ei hewythr.
Noda'r adroddiad bod Mrs Walker yn eistedd yng nghefn y cwch wrth iddo groesi llwybr y beic ar gyflymder o 28.8-34.5mya.
Nodir hefyd nad oedd sgiliau y personau oedd yn rheoli'r cwch a'r beic dŵr yn ddigonol ar gyfer cyflymder o'r fath ac nad oedd yr un ohonynt wedi bod ar gwrs hyfforddi addas.
Noda'r MAIB nad oedd gan gyrrwr y cwch unrhyw gymwysterau perthnasol ac nad oedd wedi gyrru cwch rib ers 25 mlynedd.
Gan gyfeirio at ddiffyg rheolaeth Cyngor Môn dywed yr adroddiad ymhellach bod y dulliau anghyson o reoli beiciau dŵr ar draws y DU yn cael cryn effaith ar yr ymdrechion i ostwng defnydd anghyfrifol.
Argymhellion
Mae'r MAIB yn argymell bod Cyngor Môn yn cyflwyno mesurau i wella eu rheolaeth o Afon Menai gan adolygu a newid, os yn briodol, y ddeddfwriaeth berthnasol.
Rhaid cysylltu â sefydliadau sy'n arbenigo ar reoli beiciau dŵr a sicrhau bod gan dîm morol y cyngor adnoddau digonol i gyflawni eu dyletswyddau, meddai.
Roedd yna argymhelliad hefyd i'r Royal Yachting Association ac i'r bartneriaeth beiciau dŵr gynnal fforwm a fyddai'n canolbwyntio ar ddiogelwch a chysondeb o ran rheoli beiciau dŵr ar draws arfordiroedd y DU.
Yn gynharach yn yr ymchwiliad roedd yna gyngor i'r gymdeithas gychod adolygu a newid eu llawlyfrau ar y defnydd o feiciau dŵr - roedd yna gais penodol iddynt ychwanegu cyngor priodol ar groesi tonnau.
Dywedodd Andrew Moll, Prif Arolygydd yr MAIB: "Wrth i'r defnydd o gerbydau hamdden ddod yn fwy poblogaidd mae'r ddamwain drasig hon yn rhybudd nad yw symudiadau cyflym heb reolaeth ger cerbyd arall ar y dŵr yn ddiogel.
"Yn aml mae beiciau dŵr yn ffordd unigryw o fwynhau'r dŵr ond peiriannau ydynt a nid teganau. Mae cwblhau cwrs hyfforddiant addas yn sicrhau gwell diogelwch i ddefnyddwyr.
"Mae sawl harbwr ac awdurdod lleol yn rheoli eu dyfroedd fel bod modd darparu ardaloedd diogel i ddefnyddwyr ond mae yna anghysondeb ar draws arfordiroedd y DU sy'n gallu arwain at ddryswch ac felly rwyf wedi awgrymu bod y Royal Yachting Association a'r Personal Watercraft Partnership yn cynnal fforwm i sicrhau cysondeb o ran rheolaeth."
'Cymryd camau cadarnhaol'
Dywed Cyngor Ynys Môn eu bod yn derbyn yr argymhellion ac eisoes yn eu gweithredu.
"Ry'n yn cydnabod fod hwn yn gyfnod hynod o anodd i deulu a ffrindiau Mrs Jane Walker, ac ry'n yn meddwl amdanynt heddiw," meddai Christian Branch, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Môn.
"Ry'n eisoes wedi cymryd camau cadarnhaol i wella'r ffordd ry'n yn rheoli Afon Menai fel sydd wedi cael ei argymell gan adroddiad yr MAIB."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Awst 2020