Cyhoeddi enw dynes fu farw wedi gwrthdrawiad ar Y Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a beic sgi dŵr dros y penwythnos.
Bu farw Jane Walker, 52 o ardal Sir Stafford, yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Afon Menai ger Porthaethwy.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r digwyddiad am tua 19:30 nos Sadwrn.
Dywed yr heddlu fod Mrs Walker yn deithiwr ar y cwch RIB, a chafodd driniaeth ar y lan cyn ei throsglwyddo i'r ysbyty.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd neu a dynnodd luniau ffilm o feiciau sgi dŵr neu gychod RIB ar y Fenai rhwng 17:00 a 19:45 i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney: "Yn dilyn marwolaeth Mrs Walker mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau ymchwiliad i ganfod trefn y digwyddiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad.
"Mae'n ymholiadau cynnar yn awgrymu fod y beic sgi dŵr a'r cwch rhwng y lanfa ym Mhorthaethwy a phier Bangor ar y pryd," meddai.
"Mae'n meddyliau gyda theulu a chyfeillion Mrs Walker."
Teulu mewn sioc
Ychwanegodd yr heddlu fod teulu Mrs Walker mewn sioc ac wedi eu llorio gan ei marwolaeth sydyn.
Maent yn gofyn am lonydd i ddod i delerau â'u colled, meddai'r heddlu.
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol, lle disgrifiwyd Mrs Walker fel "dynes hyfryd".
Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu, ac mae'r heddlu mewn cysylltiad â'r corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau ar y môr, y Marine Accident Investigation Branch, ynghylch amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn gofyn am unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101, gyda'r rhif cyfeirnod Y114906.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2020