Afon Menai: Gŵr gweddw yn pledio am beidio cyfyngu
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr dynes a laddwyd mewn damwain ar Afon Menai yn ofni y bydd ei marwolaeth yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau cyfyngiadau newydd.
Roedd Jane Walker, 52 o Sir Stafford, yn teithio ar gwch RIB pan fu mewn gwrthdrawiad fis Awst diwethaf.
Mae Cyngor Môn wedi lansio adolygiad ar sut i reoli'r darn o ddŵr - yn rhannol mewn ymateb i'r defnydd cynyddol o'r afon.
Ond nid yw Kevin Walker eisiau i'r digwyddiad ble fu farw ei wraig gael ei ddefnyddio fel rheswm dros gyfyngu.
Fe alwodd y digwyddiad yn "ddamwain drasig".
Dywed yr awdurdod lleol eu bod yn ystyried barn pawb sy'n defnyddio Afon Menai, p'un ai am resymau masnachol, twristiaeth neu ddefnydd personol, yn ogystal â sicrhau bod yr ardal amgylcheddol bwysig a sensitif yn cael ei gwarchod.
'Damweiniau traffig bob dydd'
Lladdwyd Mrs Walker ar ôl cael ei tharo gan jet ski wrth iddi eistedd ar gefn cwch wrth ymyl ei gŵr.
"Roedden ni ar y cwch. Trodd y cwch ac fe wnaeth y jet ski, p'un a oedd ddim yn gweld, glipio'r cefn lle roedd fy ngwraig yn eistedd," meddai Mr Walker.
"Roedd yn gwch mawr. Damwain freak oedd o mewn gwirionedd.
"Mae damweiniau traffig bob dydd ar y ffordd. Does gennym ni ddim terfyn cyflymder o 20mya ledled y wlad, nag oes?"
Dywedodd Mr Walker, ymwelydd rheolaidd â'r ardal am dros 30 mlynedd, ei fod yn poeni y gellid gosod cyfyngiadau am fod rhai pobl "ddim yn hoffi jet skis, ddim yn hoffi cychod".
"Yn amlwg, mae pobl yn edrych i gael eu gweld yn gwneud rhywbeth," meddai.
Fe allai Mr Walker gytuno o bosib fod angen i bobl sy'n defnyddio'r dŵr gael rhai cymwysterau, ond mae'n gwrthwynebu cyfyngiadau cyflymder a gorfodi rhai pobl i aros mewn rhai ardaloedd.
"Rwy'n yn erbyn hynny'n fawr. Nid wyf am i'r ddamwain gael ei defnyddio yn y ffordd honno," meddai.
"Byddai fy ngwraig yn bendant wedi dweud yr un peth.
"Roedd hi wrth ei bodd yn dod yma. Damwain drasig oedd yr hyn a ddigwyddodd. Rwy'n gwybod beth ddigwyddodd - roeddwn i'n eistedd wrth ei hymyl.
"Mae pobl yn defnyddio'r ddamwain honno i orfodi'r hyn maen nhw eisiau."
'Ailedrych ar ddiogelwch morwrol'
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones o Gyngor Môn: "Mae'r Fenai yn ddyfrffordd eiconig ac mae ganddi rôl hollbwysig fel amwynder lleol, yn ogystal â chefnogi ein heconomi, yr amgylchedd a'r diwydiant twristiaeth.
"Mae pwysigrwydd ecolegol y Fenai, ynghyd â'i phoblogrwydd cynyddol fel adnodd hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod angen i ni ailedrych ar ei rheolaeth ac ar ddiogelwch morwrol."
Mae Catherine Griffiths, sydd wedi byw yn Ynys Môn am dros 30 mlynedd ac ym Mhorthaethwy am y tair ddiwethaf, eisiau gweld mwy o gyfyngiadau ar feiciau dŵr a chychod pŵer eraill.
"Mae'n annymunol iawn oherwydd maen nhw mor swnllyd," meddai.
"Rydyn ni'n gwneud llawer o gerdded o amgylch Porthaethwy ac yn ystod y cyfnod clo roedd hi'n wynfyd oherwydd doedd neb yn defnyddio'r Fenai o gwbl."
Ychwanegodd: "Pan ydych chi ar gaiac môr - mae'n hyfryd ac yn dawel ac nid ydych chi'n tarfu ar y bywyd gwyllt na'r bobl - dyna rydyn ni ei eisiau ar y dŵr. Nid y jet skis swnllyd 'ma.
"Mae yna ddigon o le yng ngweddill Ynys Môn a gogledd Cymru lle gallant wneud hynny."
Mae cartref Nicki Ashwell ar y Fenai ac mae ei theulu'n defnyddio'r dŵr ar gyfer hwylio, padl-fyrddio a nofio.
Dywedodd fod gweithgareddau cychod pŵer proffesiynol "yn gweithredu'n anhygoel o ddiogel ac o fewn pob math o baramedrau cywir".
"Ond mae gen i broblem fach gyda'r jet skis oherwydd nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n cadw at unrhyw un o'r rheolau," meddai.
Ond dywed Ms Ashwell nad yw hi eisiau gweld rheolau newydd anodd yn cael eu gorfodi.
"Dwi ddim yn cytuno gyda'r cyfyngiadau cyflymder oherwydd mae'n cyfuno pawb i mewn i ardal lai, ac o'r hyn rydw i wedi'i weld mae hynny'n fwy peryglus na chael ardal agored," meddai.
Mae Cyngor Môn wedi comisiynu adolygiad o weithgareddau morwrol ar Afon Menai.
Mae disgwyl i'r adolygiad ddod i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf ac mae disgwyl i'r ymgynghorwyr wneud rhestr o argymhellion.
Dywedodd Cyngor Môn: "Mae'n debygol y bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i wneud sylwadau ar yr argymhellion hyn yn ystod ymgynghoriad yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020