Profion Covid am ddim: 'Nid mater i Loegr yn unig' medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LFTFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni all "Lloegr yn unig" benderfynu cwtogi na rhoi terfyn ar brofion llif unffordd rhad ac am ddim ar gyfer Covid, meddai gweinidog iechyd Cymru.

Rhybuddiodd Eluned Morgan y byddai cam o'r fath ar gyfer Lloegr, gan weinidogion y DU, yn effeithio ar Gymru, a oedd wedi "talu am lawer" eisoes.

Roedd Cymru, a'r llywodraethau datganoledig eraill, wedi anfon "negeseuon clir" i Lywodraeth y DU ar hyn, meddai.

Yn gynharach, dywedodd gweinidog yn Llywodraeth y DU mai dod â phrofion am ddim i ben oedd y "cyfeiriad", gyda chyhoeddiad "yn fuan".

'Byw gyda Covid'

Defnyddir niferoedd enfawr o brofion llif unffordd (LFTs) bob dydd ar draws y DU, er enghraifft gan bobl sy'n gweithio ym myd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chan y rheini sy'n ymweld â ffrindiau a pherthnasau sy'n agored i niwed.

Ond mae adroddiadau niferus wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf bod Llywodraeth y DU yn adolygu'r profion rhad ac am ddim, o dan gynlluniau i "fyw gyda Covid" yn Lloegr, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

'Ni all Lloegr yn unig wneud yr holl benderfyniadau," meddai Eluned Morgan

Dywedir bod Trysorlys y DU yn ceisio arbed biliynau o bunnoedd drwy gwtogi ar brofion rhad ac am ddim.

Dywedodd Ms Morgan wrth BBC Cymru: "Mae yna negeseuon clir iawn wedi eu rhoi i Lywodraeth y DU ar hyn, oddi wrthym ni yma yng Nghymru, ond hefyd oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig eraill.

"Mae cyfarfod arall yr wythnos hon i drafod yr union fater hwn, i wneud yn siŵr eu bod yn deall na all Lloegr yn unig wneud yr holl benderfyniadau, bod yna effaith arnom ni a hefyd ein bod wedi talu, mewn gwirionedd, am lawer o'r darpariaethau eisoes."

Yn gynharach, wrth siarad ar Sky News, gofynnwyd i Weinidog y Lluoedd Arfog James Heappey a oedd profion llif unffordd rhad ac am ddim yn mynd i gael eu hatal.

Atebodd: "Rwy'n meddwl mai dyna'r cyfeiriad, ond bydd y prif weinidog yn cyhoeddi ei gasgliadau ar hynny yn fuan.

"Rwy'n deall y pryder, mae gen i berthnasau bregus ac mae yna sicrwydd o gymryd prawf i wybod nad oes gennych chi Covid cyn i chi fynd i ymweld â nhw. Ac am y tro mae profion yn parhau i fod ar gael."

Ychwanegodd: "Y gwir amdani yw ein bod ni'n symud i gyfnod gwahanol nawr, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n debyg ei bod hi'n bryd ailystyried a oes angen i rai o'r mesurau sydd wedi bod ar waith dros y 18 mis diwethaf barhau ai peidio."