Lloegr v Cymru: Dim lle yn y garfan i Louis Rees-Zammit

  • Cyhoeddwyd
Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Methodd Louis Rees-Zammit â chreu argraff yn nwy gêm agoriadol y Chwe Gwlad eleni

Mae Cymru wedi gadael yr asgellwr Louis Rees-Zammit allan o'u carfan i herio Lloegr yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae Josh Adams yn ôl i gymryd lle Rees-Zammit, a fydd yn cael ei ryddhau i chwarae i Gaerloyw yn erbyn Caerlŷr.

Y disgwyl yw y bydd Alex Cuthbert yn cadw ei le ar yr asgell arall ar ôl plesio yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban.

Er bod Rees-Zammit, 21, wedi cael trafferth i adael ei farc yn y ddwy gêm gyntaf, mae'n benderfyniad mawr gan yr hyfforddwr Wayne Pivac i'w adael allan yn gyfan gwbl.

Mae Adams ar gael eto ar ôl methu'r fuddugoliaeth dros Yr Alban gydag anaf, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd ar yr asgell ar ôl chwarae fel canolwr yn y golled yn Nulyn.

Mewn newid posib arall, mae Pivac hefyd yn ystyried rhoi blaenwr Caerfaddon, Taulupe Faletau yn ôl yn y rheng ôl gychwynnol.

Mae'r wythwr profiadol wedi chwarae dwy gêm i'w glwb ar ôl dychwelyd o absenoldeb o saith mis yn dilyn problem â'i ffêr.

Bydd Pivac yn enwi ei dîm yn swyddogol ddydd Iau am 11:30.