Galw ar gynghorau ledled Cymru i addasu canol trefi

  • Cyhoeddwyd
Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae canol tref Aberaeron yn un o'r mannau lle mae'r cyngor yn treialu systemau newydd

Mae 'na alw ar i ragor o gynghorau ledled Cymru i addasu canol eu trefi ar gyfer cerddwyr wrth i Gyngor Ceredigion dreialu newidiadau yn rhai o drefi'r sir.

Fe fydd palmentydd lletach, a gafodd eu cyflwyno yn ystod y pandemig, yn ogystal â systemau traffig un-ffordd yn aros yn nhrefi Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi wrth i'r cyngor weld a yw'r newidiadau hynny yn fuddiol.

Mae elusen Sustrans wedi dweud eu bod am weld rhagor o gynghorau ar draws Cymru yn dilyn Cyngor Ceredigion.

Ond nid pawb sy'n fodlon gyda'r newidiadau, gyda rhai busnesau yn dweud eu bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid oherwydd llai o lefydd parcio a'u bod yn poeni fod rhai newidiadau yn beryglus.

Pwysleisio mai arbrawf yw hyn mae Cyngor Ceredigion, gan ddweud bod 'na gyfle i bobol gynnig adborth am y cynllun.

Fe gyflwynodd Cyngor Ceredigion ardaloedd diogel dros dro mewn trefi arfordirol i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol yn ystod y pandemig a galluogi busnesau i fasnachu yn yr awyr agored.

Ond wrth i gyfyngiadau lacio, mae' cyngor am weld os yr rhai o'r newidiadau fel palmentydd estynedig, a mesurau llif traffig wedi profi'n fuddiol, ac yn cynnal cyfnod prawf.

Mae nifer o fusnesau, gan gynnwys rheini sy'n gweini bwyd yn falch o'r newidiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r addasiadau i ganol tref Aberystwyth wedi denu mwy o gwsmeriaid, yn ôl Nathan Egerton Evans o gaffi Y Caban

"Ry'n ni'n lico beth sydd wedi digwydd ar y pafin fa'ma. Mae'r cownsil wedi neud rhywbeth sydd wedi dod a mwy o trade i'r busnes a ma 'na lot mwy o bobol yn cerdded i fyny'r stryd" medd Nathan Egerton Evans o gaffi Y Caban yn Aberystwyth.

"Ma 'na fwy o le i bobol eistedd yn yr haf. Mae e'n rhywbeth positif ry'n ni wedi gweld yma yn Y Caban."

Ychwanegodd y byddai'n croesawu cau strydoedd yn gyfan gwbl er mwyn ehangu'r lle am fyrddau tu allan.

"Ry'n ni'n gallu cael rhywbeth fel 10 neu 11 bwrdd arall ar y pafin, so mae e'n rhoi rhywbeth fel double capacity i ni fel busnes.

"Mae e'n rhywbeth rili positif. Mae cwsmeriaid, a lot o bobol sy'n dod ar eu gwyliau yn dweud bod nhw'n gallu cael lot mwy o amser yng nghanol y dre, a ma' nhw'n gallu mynd rownd y busnesau bach yma a gallu gwario mwy o bres yng nghanol y dre, felly mae'n nhw licio be sydd wedi digwydd yma."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cynthia Binks, sy'n gweithio yng nghanol tref Aberystwyth, mae llai o bobl yn dod i siopa oherwydd prinder llefydd parcio

Ond nid pawb sy'n falch o weld y newidiadau yn Aberystwyth, gyda Cynthia Binks o siop Clare Wools yn y dref yn gweld gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid.

"Dwi ddim yn hapus iawn achos mae'r footfall llawer llai nawr na beth oedd e," dywedodd.

"Dyw neb yn gallu jyst stopio a slipo fewn i'r siopau yma. Mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r maes parcio neu'n weddol bell i ffwrdd achos does dim lle i bobol aros am hanner awr."

"Mae'r pafin wedi cael ei 'neud yn fwy a mae 'na lai o le - llai o le i bobol ddod a pharcio, i stopio a ddod i mewn i'r siopau bach yma.

"Os nad oes pobol yn dod fewn, dwi ddim yn cael pres."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Thomas o The New Celtic yn Aberaeron yn dweud bod yr addasiadau'n anniogel

Yn Aberaeron, mae newidiadau sylweddol gyda system unffordd i gyrraedd yr harbwr a phalmentydd lletach.

Ond mae'r drefn newydd yn beryglus yn ôl Iestyn Thomas o fwyty'r New Celtic.

"Sa i'n ffan mawr o fe a dweud y gwir wrthoch chi o ran yr ochr safety," eglurodd.

"Ni'n gweld popeth yma trwy'r dydd a'r damweiniau ry'n ni wedi gweld, neu sydd wedi bron â digwydd -ceir yn mynd lan ar y cyrbau a bron yn bwrw pobol sy'n cerdded pasio.

"Ceir yn dod lawr y ffordd - one-way system yw hi, ond yn enwedig amser haf pan ni'n cael twristiaid sydd ddim yn gyfarwydd â'r ardal. Ceir yn dod lawr a ma hi jyst yn carnage - chaos 'ma."

'Mentrus'

Er nad yw pawb yn hapus gyda'r newidiadau, mae elusen trafnidiaeth Sustrans am weld rhagor o gynghorau yn dilyn ôl troed Ceredigion.

"Mae e'n dangos arweinyddiaeth sy'n eitha' mentrus a bod yn onest," medd Siôn Ford o'r elusen.

"Maen nhw wedi gweld y potensial mewn rhywbeth sydd am weithio a maen nhw wedi gwrando ar y bobl sy'n byw yn yr ardal yna hefyd.

"Yn sicr dwi'n credu gall hynny arwain y ffordd ar gyfer cynghorau eraill ar draws Cymru heb unrhyw amheuaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Dafydd Edwards yn pwysleisio y bydd y cyngor yn gwrando ar adborth y cyhoedd cyn gwneud trefniadau parhaol

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, sy'n gyfrifol am briffyrdd ar gabinet Cyngor Ceredigion, mai arbrawf yw'r hyn sy'n digwydd ac nad oes penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud.

"Syniad yw e mewn ffordd, a ma'n rhaid i ni neud e'n arbrofol a gwrando ar y feedback gewn ni," dywedodd.

"Os oes unrhyw un mas 'na sydd â rhyw ongl arno fe, dewch nôl, dewch i siarad, achos wrth siarad ry'n ni'n dod i benderfyniadau synhwyrol.

"Hwn yw'r amser ymgynghori gyda busnesau. Be nethon ni yn yr ymgynghoriad mewnol oedd siarad gyda'r aelodau lleol a defnyddio'r feedback gan rheini. Odd 'da rheiny syniad go lew o beth yw'r teimladau yn eu hardaloedd nhw."

Bydd chwe mis gan y cyhoedd i gyflwyno adborth ar y newidiadau.