Gwyddonwyr Aberystwyth yn mynd i'r afael â malaria yn Zanzibar
- Cyhoeddwyd
Mae cymorth gwyddonwyr yn Aberystwyth i fynd i'r afael â malaria yn nwyrain Affrica yn allweddol, medd yr awdurdodau yn Zanzibar oddi ar arfordir Tanzania.
Mae gwyddonwyr o'r brifysgol wedi bod yn cefnogi swyddogion y wlad gyda thechnoleg drôn a ffôn clyfar i helpu i ddod o hyd i byllau o ddŵr y mae mosgitos, sy'n cario'r afiechyd, yn eu defnyddio i fridio.
Dyma'r tro cyntaf i dechnoleg dronau gael ei defnyddio o fewn rhaglen o'r fath.
Nod Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar yw cael gwared ar y clefyd - sy'n lladd dros 400,000 o bobl ledled y byd bob blwyddyn - erbyn 2023.
Mae'r ynysoedd a'r tir mawr yn Tanzania wedi brwydro am gyfnod hir yn erbyn malaria.
Mae malaria yn cael ei ledaenu'n bennaf gan fosgitos benywaidd Anopheles, sy'n dueddol o frathu yn y cyfnos ac yn y nos.
Pan fydd mosgito heintiedig yn brathu person mae'n trosglwyddo'r parasitiaid i'r llif gwaed.
Mae rheoli larfa mosgito yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o ddileu malaria, ond o'r ddaear mae'n anodd iawn dod o hyd iddynt a rhagweld pryd a ble y bydd y safleoedd bridio yn datblygu.
Fe benderfynodd Dr Andy Hardy, darlithydd yn adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, edrych ar y broblem o ongl wahanol gan droi at dechnoleg dronau.
"Mae dronau yn rhan allweddol o'r arfau yn erbyn yr afiechyd," meddai.
"Mae'r dronau'n darparu mapiau manwl gywir i'r timau ar y ddaear fel bod modd trin y pyllau dŵr cyn i'r larfa droi'n fosgitos llawndwf a dechrau lledaenu'r parasit malaria.
"Rydym yn llawn cyffro wrth weld sut y gall ein system sydd wedi ei harwain gan dechnoleg wella gweithrediadau dileu malaria yn Zanzibar.
"O fewn 20 munud, mae un drôn yn gallu archwilio cae reis 20 hectar. Mae'r delweddau hyn yn gallu cael eu prosesu a'u dadansoddi ar yr un prynhawn i leoli a mapio safleoedd bridio potensial. Mae hyn wedi profi i fod yn hynod gywir ac effeithlon.
"Mae lefelau'r haint wedi disgyn o 40% o'r boblogaeth i lai na 1% mewn rhai ardaloedd yn Zanzibar."
'Mae'n gost effeithiol hefyd'
Mae'r dull gwahanol ac arloesol hwn wedi'i groesawu yn Zanzibar gan ddirprwy reolwr y Rhaglen Dileu Malaria, Faiza Abbas, sy'n ei weld fel cam pwysig tuag at ddileu malaria yno.
"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran cyrraedd a nodi'r safleoedd bridio, ond hefyd o ran costau," meddai.
"Rydym ni fel rhaglen yn benderfynol o ddefnyddio'r dechnoleg hon i wneud yn siŵr ein bod yn dal bron pob un o'r safleoedd bridio.
"Pan fyddwch chi'n siarad am malaria, nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi hepgor y safleoedd bridio."
'Technegau a thechnolegau newydd'
Ychwanegodd Dr Silas Majambere, cyfarwyddwr gweithrediadau gwyddonol Cymdeithas Rheoli Mosgito Pan Affrica: "Wrth i ni ymdrechu tuag at y nod pennaf o ddileu malaria, rydym yn edrych at dechnegau a thechnolegau newydd i lywio strategaethau ymyrraeth.
"Mae gwaith Dr Hardy wedi arddangos buddion defnyddio dronau ar gyfer darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer timau maes rheoli malaria - mae ganddo botensial gwirioneddol i gael ei gymhwyso mewn rhaglenni rheoli malaria cenedlaethol eraill.
"Yn hynny o beth, rwyf wedi cynnig defnyddio dull Dr Hardy mewn ymgyrchoedd malaria cenedlaethol eraill yn Affrica, gan gynnwys Rwanda, Tanzania, Uganda, a Ghana."
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Consortiwm Rheoli Fector Arloesol a sefydlwyd yn 2005.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018