Cadarnhau penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cyrnol James PhillipsFfynhonnell y llun, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Cyrnol James Phillips ei benodi gan Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Materion Cyn-filwyr Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai'r Cyrnol James Phillips sydd wedi ei benodi'n Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru.

Mae comisiynwyr o'r fath eisoes yn Yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon a bu galw ers sbel am gomisiynydd yng Nghymru hefyd i gynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog.

Dywedodd y Cyrnol, sy'n byw yn Sir Benfro, y bydd yn "defnyddio fy mhrofiad a'm sefyllfa i wella bywydau pob cyn-filwr a'u teuluoedd".

Bydd yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Steve Barclay a'r Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr, Leo Docherty.

Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • Craffu a chynghori ar bolisi'r llywodraeth ar gyfer cyn-filwyr;

  • Sicrhau bod anghenion a chyfraniadau penodol cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cynrychioli;

  • Helpu cyfeirio cyn-filwyr a'u teuluoedd at gymorth lleol mewn meysydd fel darpariaeth gofal iechyd ac iechyd meddwl, tai a chyflogaeth;

  • Chynorthwyo elusennau'r gymuned gyn-filwyr yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae galw ers tro am gomisiynydd i gynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru, gan ddilyn esiampl Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r Cyrnol Phillips, sy'n briod ac yn dad i bedwar o blant, newydd ddychwelyd i fywyd sifil yn dilyn 33 o flynyddoedd gyda'r Fyddin.

Fe wasanaethodd yn Yr Almaen, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Afghanistan ac Iraq.

Mae wedi gorchymyn milwyr, morwyr a phersonél awyr ac wedi gweithio yn NATO yn ogystal â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a Phencadlys y Cyd a'r Fyddin.

Dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr" at fod yn Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru, gan ychwanegu: "Mae'r gymuned gyn-luoedd yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru ac mae traddodiad hir o wasanaeth ac aberth."

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart (dde) ei fod yn falch o gyhoeddi penodiad y Cyrnol Phillips ar Ddydd Gŵyl Dewi

Dywedodd Simon Hart bod "cyn-filwyr a'u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt".

"Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cynyddu ac yn cydlynu'r cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog," meddai.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn bod Llywodraeth Cymru'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cyrnol Phillips "fel rhan o'n hymrwymiad i gyn-filwyr ledled Cymru".

Ychwanegodd: "Mae Cymru'n darparu ystod eang o gymorth i gyn-filwyr - o Gyn-filwyr GIG Cymru i'n Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog - ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi pawb sydd wedi gwasanaethu."