£4m o gymorth ariannol a dyngarol ar gyfer Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £4m ar gael i gynorthwyo gyda'r ymdrechion dyngarol yn Wcráin.
Yng nghyfarfod llawn y Senedd brynhawn Mawrth wrth ateb cwestiwn brys dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Fel cenedl noddfa byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl Wcráin.
"Mae Cymru yn agored i roi croeso a diogelwch i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, ac mae pobl Cymru wedi eu syfrdanu gan yr ymosodiad ar Wcráin," meddai.
Dywedodd ei fod yn croesawu ymestyn y rheolau fisa ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin ond "bod yna fwy y dylid ac y gellid ei wneud".
"Mae gennym gannoedd o bobl o Wcráin yn byw yng Nghymru - ac mae eu ffrindiau a'u teulu nawr ar y rheng flaen.
"Mae yna waith ry'n ni'n gallu ei wneud yma yng Nghymru sef rhoi sicrwydd iddyn nhw bod cefnogaeth ar gael wrth iddyn nhw wynebu'r dyddiau anodd sydd i ddod."
Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau brys ddydd Mercher gydag arweinwyr awdurdodau lleol i sicrhau bod paratoadau yn eu lle i dderbyn ffoaduriaid.
Wrth siarad â baner Wcráin yn cael ei harddangos yn y Siambr, dywedodd fod y GIG yng Nghymru hefyd yn edrych ar sicrhau bod cyflenwadau meddygol ar gael.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei fod yn rhoi cefnogaeth lawn ei blaid i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin i Gymru, i "setlo neu fel hafan dros dro".
Dywedodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru bod yr ymosodiad gan Rwsia "yn ymgais o hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin".
"Ry'n yn annog Llywodraeth y DU i ildio y rheolau fisa i bob ffoadur o'r Wcráin ac fe ddylai hynny fod yn gymwys i bawb sy'n dianc rhag rhyfel," meddai.
Yn ystod y cyfarfod llawn fe wnaeth Mr Drakeford gefnogi sylwadau Mike Hedges AS na ddylai Rwsia gael cystadlu mewn unrhyw dwrnamaint chwaraeon rhyngwladol.
Dywedodd hefyd ei fod yn cytuno gyda sylwadau Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig am "ganlyniadau peryglus" y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau.
Roedd yna gymeradwyaeth yn y Senedd brynhawn Mawrth wedi i Mick Antoniw, sydd o dras Wcreinaidd, siarad.
"Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi datblygu i fod yn rhyfel yn erbyn pobl Wcráin," meddai.
"Ac mae'n meddyliau gyda'r bobl hynny sydd wedi gorfod troi at arfau i amddiffyn democratiaeth ac i ymladd am ryddid gan gynnwys aelodau o fy nheulu i fy hun," ychwanegodd.
Mae baner Wcráin hefyd yn chwifio uwchben pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, ddydd Mawrth.
Cymorth o Gymru
Ar draws Cymru mae ymgyrchoedd yn cael eu cynnal i gynnig cymorth i'r rhai sy'n ffoi o'r ymosodiad ar y wlad.
O ganlyniad, mae siop siocled a chaffi yng Nghydweli, bellach yn storfa dros dro ar gyfer dillad, teganau, sachau cysgu a deunyddiau golchi.
"Fi di gweld shwt gymaint o bobl sa'i byth di gweld o'r blaen yn lleol," meddai Eden Davies.
"Mae rhai pobl di rhoi pethe,' mas o'r bag yn brand new gyda labels, s'neb yn meddwl dwywaith am faint mae nhw di costio."
Mae'r nwyddau wedyn yn cael eu cludo i Gaerfyrddin, gyda'r bwriad o ddechrau'r daith i ddwyrain Ewrop brynhawn Iau.
Tra ym mhen arall Cymru, mae un ddynes o Lanelwy yn gwerthu breichledau i godi arian ar gyfer y ffoaduriaid.
Mae Hayley Doroshenko-Nuttall, 25, yn gweithio fel technegydd dylunio a thechnoleg.
Ond dros y dyddiau diwethaf mae hi wedi bod yn creu breichledau sy'n cyfuno symbolau Cymru a Wcráin, sef llwyau caru a blodau haul.
Fe symudodd taid Hayley i Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac er iddo farw rai blynyddoedd yn ôl, mae Hayley yn dweud fod ganddi dynfa at hanes a thraddodiadau y wlad.
O ganlyniad, mae'n teimlo i'r byw o weld yr hyn sy'n digwydd i bobl Wcráin.
"Maen nhw'n cyfuno Cymru a Wcráin efo'i gilydd, fel fi," meddai.
"O'ddwn i isho gwneud rwbath am mod i'n teimlo'n passionate am be sydd 'di digwydd, a theulu fi yn Wcráin."
Bellach mae pob un wedi'i werthu, wedi ymateb anhygoel i'r fenter.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022