Wcráin: 'Nonsens sôn am fisas pan fo cymaint yn ffoi'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Deyrnas Unedig "ar ei hôl hi o hyd" o ran cynnig lloches i ffoaduriaid sy'n ffoi rhag ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin, yn ôl cyn-lefarydd y Blaid Lafur ar ddatblygu rhyngwladol.
Dywedodd Ann Clwyd, fu'n Aelod Seneddol dros Gwm Cynon am 35 mlynedd nes 2019, mai "nonsens ydy sôn am fisas ar hyn o bryd pan fo cymaint o bobl yn ffoi".
Mae'r llif o bobl gyffredin Wcráin sy'n gadael y wlad yn parhau, gyda'r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod dros 500,000 o bobl wedi ffoi rhag y brwydro ers dechrau'r gwrthdaro.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi ehangu'r rheolau fisa fel bod modd i bobl o Wcráin gael lloches yma os oes ganddyn nhw deulu sy'n ddinasyddion Prydeinig.
Ond i unrhyw un o Wcráin sydd heb deulu yn y DU, maen nhw'n gorfod gwneud cais trwy system fewnfudo arferol Llywodraeth y DU.
Mae Llafur wedi beirniadu'r rheolau fisa fel rhai "aneglur" a "dryslyd".
"Mae pobl yn ceisio agor ffiniau, a gadael iddyn nhw ddod drosodd, ond mae'r wlad yma ar ei hôl hi o hyd mae gen i ofn," meddai Ms Clwyd ar Dros Frecwast fore Mawrth.
"Ro'n i'n gwrando ddoe ar y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin - mae'r mwyafrif o bobl isio bod yn groesawgar iawn ac agor pethau i fyny i'r ffoaduriaid, ond dydy hi ddim yn glir iawn o hyd be' 'di'r rheolau.
"Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi'n bosib i unrhyw un ddod drosodd yma o'r wlad.
"Ond pan mae pobl yn ceisio gwneud hynny - pobl mewn oed, mamau - mae pobl yn dod cyn belled â Ffrainc, ond methu dod drwy'r twnnel oherwydd bod dim fisa ganddyn nhw.
"Nonsens ydy sôn am fisas ar hyn o bryd pan fo cymaint o bobl yn ffoi.
"Dwi'n gobeithio dros yr oriau nesa' 'ma y bydd pwysau Aelodau Seneddol yn newid agwedd Priti Patel, er bod hynny'n reit anodd."
Pryder teulu o Gorwen
Mae un teulu o Gorwen wedi cael anhawster mawr wrth geisio dod â pherthnasau yn ôl i Gymru.
Dywed Dylan Ellis Jones, sydd â'i wraig, Gulzara yn dod o Wcráin, fod y system fisa bresennol yn hynod o ddryslyd.
Wrth i fyddinoedd Rwsia barhau i ymosod mae yna amcangyfrif fod 660,000 o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin.
Roedd Mr Jones wedi gobeithio dod â chwaer ei wraig a'i nai yn ôl i Gymru ond oherwydd yr ansicrwydd wrth geisio am fisa mae hi wedi gorfod mynd i'r Almaen.
Mae Ms Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi dweud nad yw hi am gael gwared ar y rheolau fisa i bobl o Wcráin oherwydd rhesymau diogelwch, a bod pryder fod lluoedd Rwsia yn ffugio bod yn Wcrainaidd.
Ond ym marn Ms Clwyd, mae Llywodraeth y DU wedi gosod rhwystrau i ffoaduriaid rhag cael mynediad i'r wlad ers tro.
"Dwi'n meddwl bod y wlad yma, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwetha' 'ma, wedi bod yn gyndyn iawn - fel yn achos Afghanistan - i adael ffoaduriaid yma," meddai.
"Dim ots pa mor gryf mae pobl y wlad yma yn awyddus i'w croesawu nhw - 'da ni 'di gweld yng Nghymru, mae Aelodau'r Senedd wedi dweud bod croeso mawr i ffoaduriaid yn y wlad yma.
"Ond mae'n rhaid i'r llywodraeth - y Swyddfa Gartref yn bennaf - fod yn glir iawn ac yn amlwg yn groesawgar, yn lle hel rhwystrau bob tro yn eu herbyn nhw."
Mae llawer o wledydd Ewropeaidd, yn enwedig Gwald Pwyl, Hwngari a Moldofa - gwledydd sydd â ffiniau ag Wcráin - wedi llacio eu rheolau mewnfudo er mwyn croesawu'r rheiny sy'n ffoi rhag yr ymosodiad gan Rwsia.
"Dwi'n meddwl bod pawb wedi synnu at gryfder y gwrthwyneb - y bobl sy'n aros yn Wcráin ac yn dal i wrthwynebu," meddai Ms Clwyd.
"'Dan ni wedi gweld y lluniau ofnadwy o famau a phlant ifanc yn aros am oriau yn eu ceir, ac wedyn yn gorfod cerdded y 12 milltir ddiwethaf i'r ffin.
"Mae'r ffaith bod y Pwyliaid wedi bod mor groesawgar - dwi'n meddwl fod pawb wedi synnu braidd at hynny - ac yn ceisio eu helpu nhw ym mhob ffordd bosib.
"Mae'r sefyllfa yn ofnadwy."
Dywedodd Ms Patel wrth Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun y byddai ehangu'r rheolau fisa i gynnwys pobl o Wcráin sydd â theulu yn y DU yn galluogi iddynt "geisio loches" yma.
Ychwanegodd y Prif Weinidog Boris Johnson na fydd y DU yn "cefnu ar Wcráin yn eu cyfnod o angen".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022