Cannoedd mewn gwylnos i ddangos cefnogaeth i Wcráin

  • Cyhoeddwyd
vigil

Daeth 300 o bobl i wylnos ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd nos Lun i ddangos cefnogaeth i Wcráin ac i wrthwynebu ymdrechion milwrol Rwsia yno.

Parhau mae'r ymladd rhwng milwyr Wcráin a Rwsia ar ôl i'r Arlywydd Putin yrru ei fyddin dros y ffin ddydd Iau.

Ymhlith y siaradwyr yng Nghaerdydd oedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, sydd newydd ddychwelyd o'r wlad.

"Un peth sy'n amhosib i Putin ei chwalu yw gobaith ac ysbryd pobl Wcráin," meddai.

"Rhaid i ni roi iddynt y cymorth ymarferol y maen nhw ei ddirfawr angen.

"Maen nhw'n ymladd ar ein rhan ni a rhaid i ni eu cefnogi."

gwylnos
Disgrifiad o’r llun,

Nos Lun roedd nifer yn bresennol mewn gwylnos ar risiau'r Senedd

Cyn y rali dywedodd wrth BBC Cymru bod "ralïau fel hyn yn hynod bwysig gan eu bod yn rhoi cryfder a gobaith i bobl Wcráin".

"Mae lleisiau pobl yn cael eu clywed gan wleidyddion ac felly yn eu hannog i ddangos mwy o undod ymarferol i bobl Wcráin," meddai Mr Price.

"Grym y bobl sy'n gwthio polisi - mae'r tro pedol ym mholisi tramor Yr Almaen yn ystod y 24 awr ddiwethaf yn brawf o hyn - a hynny oherwydd bod hanner miliwn o bobl ar y strydoedd yno.

"Dyw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Liz Truss i'r sancsiynau yn gynharach heddiw ddim yn mynd yn ddigon pell - rhaid cael embargo economaidd llwyr ar Rwsia, tebyg i'r hyn sydd wedi cael ei roi yn y gorffennol ar Iran a Gogledd Corea.

"Dyna'r fath o bolisi a fyddai'n parlysu Rwsia a'i heconomi ac a fyddai'n newid y sefyllfa yn yr achos yma - rhaid i hynny gynnwys dod â diwedd i fewnforio olew a nwy."

Fe deithiodd Adam Price a Mick Antoniw i Wcrain dros y penwythnos
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd Adam Price a Mick Antoniw i Wcráin wythnos diwethaf

Yn gynharach fe wnaeth Stephen Kinnock, AS Aberafan alw ar y Deyrnas Unedig i lacio rheolau fisa ar gyfer pobl o Wcráin sydd am ffoi yma.

"Mae angen iddyn nhw gael statws preswylwyr yn syth," ychwanegodd Mr Price.

"Rhaid i ni eu trin fel pobl sy'n ffoi rhag rhyfel gan eu croesawu wrth iddyn nhw wynebu sefyllfa hynod o ddifrifol.

"Mae gen i ffrindiau yn Kyiv a'r prynhawn 'ma mewn sgwrs eu neges i bobl Cymru oedd na ddylid ofni Putin. Ry'n am i chi uno gyda ni. Fe allwn oresgyn Putin a'i atal nid dim ond yn Wcráin ond yn Rwsia hefyd."

vigil

Y siaradwyr eraill yn y rali nos Lun oedd Mick Antoniw AS sydd hefyd newydd ddychwelyd o Wcráin, Jill Evans o CND Cymru a Shavanah Taj o TUC Cymru.

Yn ei anerchiad dywedodd Mr Antoniw, sydd â chysylltiad teuluol ag Wcráin: "Mae Cymru yn falch o fod yn genedl noddfa.

"Mae'r camau i sicrhau bod ffoaduriaid yn cael dod i Gymru a'r DU yn annerbyniol. Dwi'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all.

"Mae yna ddicter o gwmpas y byd wrth i bobl sylweddoli beth sy'n digwydd," ychwanegodd.

Yn gynharach fe ddywedodd llefarydd ar ran Senedd Cymru: "Oherwydd y sefyllfa yn Wcráin, ni fydd y digwyddiad Gŵyl Ddewi yn mynd rhagddo yn y Senedd ddydd Mawrth.

"Parhawn i feddwl am bobl Wcráin ar yr adeg anodd hon."

Pynciau cysylltiedig