Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam nos Fercher.
Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 19:30 yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi'i daro gan gar ar y Stryd Fawr yn Johnstown.
Cludwyd y cerddwr, dyn yn ei 80au, i Ysbyty Maelor Wrecsam ond bu farw yn ystod oriau man y bore.
Cafodd gyrrwr y Citroen, dyn 40 oed, ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.
Mae bellach wedi'i ryddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.
"Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r dyn", dywedodd y Sarjant Nicola Laurie o Heddlu Gogledd Cymru.
"Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys Citroen C2 lliw coch, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ac a allai fod â lluniau camera cerbyd."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion alw 101 gyda'r cyfeirnod 22000150294.