Dolen Twitter Gymraeg yn 'hyrwyddo'r iaith yn fyd-eang'

  • Cyhoeddwyd
Y ddolen newyddFfynhonnell y llun, Twitter

Mae ail weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi newid ei ddolen Twitter i fod yn uniaith Gymraeg, "er mwyn hyrwyddo ein hiaith i gynulleidfa fyd-eang".

Gwnaed y newid o @wgmin_education i @Addysg_Cymraeg ym mis Rhagfyr i gyfrif gweinidogol Jeremy Miles sydd â 48,000 o ddilynwyr.

Esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "crëwyd swydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn dilyn etholiadau'r Senedd y llynedd".

"Er mwyn cydymffurfio â gofynion y Gymraeg, ac i hyrwyddo ein hiaith i gynulleidfa fyd-eang, fe newidiwyd yr enw Trydar i'r Gymraeg ym mis Rhagfyr."

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, heb gyfeirio at y newid hwn, trydarodd Jeremy Miles y "gall pob un ohonom ddod o hyd i ffyrdd bach o ddefnyddio mwy o'r Gymraeg bob dydd".

Newidiodd Mark Drakeford ei ddolen Twitter o @fmwales i @PrifWeinidog ym mis Hydref.

Mae'r arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol, Owen Williams wedi dweud wrth y BBC bod newid o'r fath yn "bwrpasol, cynlluniedig" gan fod "newid dolen Twitter, fel cyfrif wedi'i ddilysu, yn gofyn am drafodaeth gyda rheolwyr cyfrifon Twitter i sicrhau na chollir y marc gwirio gwyn ar gefndir glas."

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru a oedd cynlluniau i weinidogion eraill newid i ddolenni Twitter uniaith Gymraeg.

Dywedodd llefarydd mai "Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a Phrif Weinidog Cymru yw'r unig gyfrifon gweinidogol sydd â dolen Gymraeg".

"Mae'r rhan fwyaf o bortffolios bellach yn defnyddio cyfrifon trydar adrannol, sy'n ddwyieithog, yn hytrach na chyfrif gweinidogol e.e. @NewidHinsawdd / @WGClimateChange, @LlCCefnGwlad / @WGRural, @LlC_Economi / @WGEconomy.

"Felly mae'r rhain eisoes wedi'u newid i gyfrifon dwyieithog, yn hytrach nag un ddolen Gymraeg neu Saesneg."

Mae cyfrif Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad yn parhau â dolen uniaith Saesneg @counselgenwales, er bod trydariadau yn Gymraeg a Saesneg bob yn ail.