Alun Davies: 'Gwastraffu gormod o amser, egni, ac adnoddau ar safonau iaith'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru a rôl Comisiynydd y Gymraeg wedi gwastraffu gormod o amser, egni, ac adnoddau ar safonau iaith, medd cyn-weinidog y Gymraeg.
Pwysleisiodd Alun Davies bod angen "hybu'r ffaith ein bod ni'n gallu mwynhau'r iaith".
Dywedodd gweinidog presennol y Gymraeg, Jeremy Miles bod buddsoddiadau mewn addysg Gymraeg ac yng ngweithgaredd yr Urdd "yn cynorthwyo normaleiddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol tu allan i'r dosbarth".
Mae'r Safonau Iaith yn rheolau sy'n gorfodi sefydliadau i ddarparu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Nid iaith y dosbarth'
Yng nghyfarfod llawn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Mr Davies: "Mae'n rhaid creu'r cyfle lle gall pobl fwynhau'r Gymraeg, a lle dyw'r Gymraeg ddim yn iaith y dosbarth, ond iaith fyw ym mywydau pobl.
"Dwi'n becso ambell waith ein bod ni wedi gwastraffu gormod o amser, gormod o egni, gormod o adnoddau ar bethau fel safonau oedd yn creu biwrocratiaeth, yn lle hybu'r ffaith ein bod ni'n gallu mwynhau'r iaith, a dwi'n credu bod hynny'n hynod o bwysig."
Atebodd Jeremy Miles: "O ran y cwestiwn ehangach yma o hybu, buaswn i'n dweud bod hybu'n derm cyffredinol, ond mae amryw o bethau'n digwydd o fewn hynny.
"Felly, mae rhan ohono fe'n gyngor i fusnes, rhan ohono fe'n creu gofodau uniaith, grymuso cymunedau... drwy waith co-operatives ac ati, y dechnoleg a hefyd y defnydd o wyddor ymddygiadol.
"Hynny yw, dyw pobl sy'n gallu'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r Gymraeg - pam? Beth yw'r pethau gallwn ni eu gwneud i'w hannog nhw i wneud hynny? Strategaeth drosglwyddo, hyfforddi arweinyddion, outreach gyda chymunedau ffoaduriaid i ddysgu'r Gymraeg - mae pob un o'r pethau yma yn elfennau o'r broses honno o hybu.
"Ond, wrth edrych ar yr elfennau unigol, mae'n amlygu bod y cyfrifoldeb ar amryw o'r pethau yna'n perthyn i amryw o gyrff ac ati. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran tryloywder a bod pobl yn gweld eu cyfrifoldeb, ein bod ni'n edrych ar yr elfennau yna'n unigol."
Yn 2018, cyhoeddodd y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg ar y pryd, Eluned Morgan, na fyddai Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r Safonau Iaith am y tro a'u bod yn "ail-gyfeirio adnoddau" oedd yn cael eu defnyddio i gyflwyno a phlismona'r safonau.
Cafodd y safonau gwreiddiol eu creu gan Gomisiynydd y Gymraeg ar y pryd, Meri Huws, ond cafwyd eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru am eu bod yn "rhy gymhleth, afresymol, anghymesur a ddim yn gwneud digon o ystyriaeth o effaith".
Cyhoeddwyd y safonau dan enw'r llywodraeth yn 2014.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014