Instagram yn 'methu' gyda phroblemau cyfrifon ffug

  • Cyhoeddwyd
Joe DunthorneFfynhonnell y llun, Tom Medwell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr awdur o Abertawe, Joe Dunthorne, na allai wneud unrhyw beth pan gafodd cyfrif ffug ei greu yn ei enw

Mae Instagram wedi methu â gweithredu mewn ymateb i broblemau cyfrifon ffug, yn ôl nofelydd o Abertawe a ddaeth i wybod bod rhywun wedi sefydlu cyfrif yn ei enw.

Wrth geisio cwyno am y cyfrif ffug chwe mis yn ôl, dywedodd Joe Dunthorne "nad oedd yn gallu gwneud cysylltiad o gwbl" gydag Instagram a nad oes unrhyw beth wedi'i wneud i gael gwared â'r cyfrif.

Mae arbenigwr mewn bygythiadau seibr wedi galw ar Instagram a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill i wneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy'n berchen ar Instagram, Meta: "Rydym yn gwneud ein gorau glas i atal defnyddwyr rhag dioddef dynwarediad" ac mae'r negeseuon dan sylw wedi eu tynnu o'r proffil."

Ychwanegodd: "Mae diogelwch ein cymuned yn bwysig i ni ac mae'n groes i'n rheolau ar gyfer cyfrifon i rywun ddynwared unrhyw un arall."

Ffynhonnell y llun, Westend61
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddenodd y cyfrif ffug filoedd o ddilynwyr, er syndod i Joe Dunthorne

Yn ôl Mr Dunthorne, awdur y nofel Submarine sydd wedi ei leoli yn ei dref enedigol, Abertawe, tynnwyd ei sylw at y cyfrif ffug gan rywun ar Twitter.

Dywedodd: "Roedd e'n arswydus, ond beth oedd hyd yn oed yn fwy rhyfedd oedd bod ganddyn nhw dipyn o ddilynwyr - bron i 6,000.

"Chi'n cael eich gadael yn meddwl 'Pam? Pam fi?'."

Dywedodd iddo gysylltu â'r cyfrif a gofyn iddyn nhw stopio, ond fe gafodd Mr Dunthorne ei flocio. Roedd hyn yn ei rwystro rhag gallu cysylltu gyda'r cyfrif eto a gweld y dudalen.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Joe Dunthorne gyfrif ffug ei hun mewn ymgais i gysylltu gyda'r sawl oedd yn ei ddynwared ar Instagram

Dechreuodd ei ffrindiau geisio cysylltu â'r cyfrif a gadael sylwadau ar y lluniau oedd yn cael eu rhannu, ond wnaeth hynny ddim helpu chwaith. Roedd y sylwadau'n cael eu dileu ac yn diflannu o'r cyfrif ar ôl rhai munudau.

"Roedd e [y cyfrif] yn edrych fel fy nghyfrif Instagram i ond doedd dim byd allwn i wneud i stopio hynny," dywedodd.

Negeseuon 'rhyfedd'

Penderfynodd Mr Dunthorne greu cyfrif ffug ei hun - dan enw bardd o'r enw Joanna - a chysylltu â'r cyfrif i ddweud ei fod yn hoff o'i waith fel awdur.

"Roedd y negeseuon cyntaf gefais i yn rhyfedd iawn," dywedodd.

"'Wyt ti'n sengl?' ac 'wyt ti eisiau sgwrsio ar WhatsApp?'... pethau oedd ag ongl eithaf rhywiol iddyn nhw. Roedd e'n frawychus iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Llun Angau gyda marc cwestiwn oedd llun proffil y dynwaredwr ar WhatsApp pan aeth ati i sgwrsio gyda Joe Dunthorne drwy'r cyfrwng hwnnw

Ar ôl ychydig fisoedd, dywedodd Mr Dunthorne bod y cyfrif yn wedi dechrau defnyddio ei enw i geisio gwerthu arian crypto drwy ei 'ffrind', Tyler. Mae'r awdur yn credu mai cyfrif ffug arall oedd hwnnw.

"Yn y pendraw, mae'n debyg mai dyna oedd nod y prosiect, ac o hynny 'mlaen, roedden nhw'n postio lot o wahanol bethau am crypto".

"O fy mhrofiad i, dw i ddim wir yn gwybod beth i ddweud... cyn belled ag ydw i'n deall, dyw'r person tu ôl i hyn heb wneud unrhyw beth hynod o faleisus ond yn amlwg mae 'na sawl achos sydd llawer yn fwy difrifol felly mae'n sefyllfa anodd.

"Felly o safbwynt y sgamwyr - rhydd iddyn nhw wneud beth a fynnon, dyw Instagram ddim yn mynd i'ch dal... dw i'n gallu gweld pam eu bod nhw'n ei wneud e, mae'r goblygiadau'n fach iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Dunthorne yn amau cymhelliad ariannol yn sgil negeseuon yn ymwneud ag arian crypto

Ychwanegodd: "Yn amlwg, mae hynny'n diweddu gyda llawer o bobl yn colli eu harian oherwydd twyll.

"Os yw'r person yna'n ceisio gwneud difrod i'ch bywyd does dim llawer allwch chi wneud, felly mae e'n beth pwerus, peryglus ac yn y dwylo anghywir, mi allai fod yn ofnadwy."

Erbyn hyn, mae'r cyfrif ffug wnaeth ddwyn proffil Joe Dunthorne wedi newid ei enw ac yn esgus bod yn filiwnydd crypto o Sbaen.

'Rhaid cymryd cyfrifoldeb'

Mae Dr Sara Giro Correia, darlithydd Bygythiadau Seibr ym Mhrifysgol Abertawe'n dweud bod angen i blatfformau gymryd cyfrifoldeb dros gyfrifon ffug.

"Dw i'n dychmygu bod nifer y pethau sy'n cael eu hadrodd yn eithriadol o uchel i blatfformau fel Instagram," meddai.

"Ond dyw hynny ddim yn esgus achos os yw cwmnïau'n rhedeg platfformau sydd mor fawr â hyn, yna mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb a dod o hyd i ffyrdd i weithredu'n gynt pan fo nhw'n derbyn adroddiadau."

Ffynhonnell y llun, Aleksandr Zubkov/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hacio cyfrif oedd y drosedd seibr fwyaf cyffredin a gofnodwyd yn 2020-2021, medd Action Fraud

Eglurodd nad yw creu cyfrif dan enw ffug, ynddo'i hun, yn drosedd nes i'r sawl gyfathrebu'n faleisus neu geisio cael arian gan bobl trwy dwyll.

Ond mae esgus bod yn rhywun arall, yn y mwyafrif o achosion yn torri termau ac amodau'r platfformau cyfryngau cymdeithasol, a'r cam cyntaf i ddioddefwyr o'r herwydd yw cysylltu gyda'r cwmnïau a gofyn iddyn nhw ddileu'r cyfrif.

Dywed Dr Correia bod cymryd cyfrif drosodd drwy ei hacio, sydd yn drosedd, a chyfrifon ffug yn digwydd yn aml ac "yn gyffredin iawn". Achosion o hacio cyfrif oedd y drosedd seibr fwyaf cyffredin a gofnodwyd yn 2020-2021 yn ôl Action Fraud, dolen allanol.

Dywedodd y dylai pobl adrodd unrhyw achos i reportharmfulcontent.com, dolen allanol os yw cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn methu â gweithredu.