11 dyn yn y llys wedi anhrefn Mayhill, Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae 11 o ddynion wedi bod yn y llys yn Abertawe wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r anhrefn ym Mayhill fis Mai'r llynedd.
Mae 27 o bobl rhwng 15 a 44 oed yn wynebu cyhuddiadau wedi'r terfysg ar Heol Waun Wen.
Fe wnaeth chwech ymddangos yn y llys, a phump drwy gyswllt fideo, wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o reiat.
Dywedodd y Barnwr Christopher James nad oedd modd delio gyda'r achos yn y Llys Ynadon, a bod yn rhaid iddo anfon bob un achos at Lys y Goron Abertawe.
Cafodd William Smolden, 24, Paul Jones, 44, a Kian Hurley, 21, ac i gyd o Mayhill, eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Michael Parsons, 37 o Waun Wen, Aaron Phillips, 23 o Waunarlwydd, a Kye Dennis, 24 o Fforestfach, hefyd eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Jahanzaib Malik, 21, Ryan Owen, 20, Dean Price 40, Tyrone Langan, 27, a Ryan Sarsfield, 25, eu cadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl i bob un ymddangos yn y llys uwch ym mis Ebrill.
Mae disgwyl i fwy o ddiffynyddion ymddangos yn y llys ddydd Iau.