Brithdir: Pobl 'wedi cael digon' o gysylltiad we araf

  • Cyhoeddwyd
Stephen Pugh
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stephen Pugh fod y bobl yn yr ardal "wedi cael digon" o aros

Mae yna alw ar gwmni Openreach i "weithredu ar frys" i ddod â band eang ffeibr cyflym iawn i ardal Brithdir ger Dolgellau.

Daw hyn ar ôl i dros 80 o gartrefi yno ymuno â chynllun cymunedol y cwmni i gael band eang cyflym - ond maen nhw'n dal i aros.

Mae Openreach yn dweud ei bod wedi gorfod rhewi cofrestriadau newydd dros dro ar gyfer eu cynllun partneriaeth ffeibr cymunedol oherwydd bod cymaint o alw amdano.

Dywedon nhw eu bod eisiau prosesu'r rhai sydd wedi eu cofrestru yn barod cyn derbyn rhagor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn yr ardal yn dweud bod eu cysylltiad â'r we yn araf iawn

Ardal wledig yw Brithdir ychydig o filltiroedd o Ddolgellau, ac mae llawer yn cwyno bod y cysylltiad band eang yn araf iawn yno.

Un ohonyn nhw yw Catrin Roberts sy'n ffermio yn Llety Rhys gyda'r teulu. Mae gan Catrin a Rhun dri o blant, a dywedodd Ms Roberts bod rhedeg busnes yn "anodd ofnadwy" gyda'r we mor araf.

"Mae'r internet yn ofnadwy o araf… mae o'n rhwystredig iawn ac mae trio rhedeg busnes yn anodd ofnadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Roberts yn dweud bod rhedeg busnes gyda chysylltiad we araf yn heriol iawn

"Mae'r rhan fwyaf o ffurflenni angen eu llenwi ar-lein, wedyn mae o'n gwneud o'n anodd iawn i ni," ychwanegodd.

"Mae'r plant isio gwylio pethau ac yn aml iawn mae eu rhaglenni nhw'n stopio ac yn ail ddechrau wedyn… 'dyn ni'n rhoi fyny yn aml iawn."

Mae yna ddegau o gartrefi wedi ymuno â chynllun cymunedol o'r enw Bryniau Brithdir i gael band eang ffeibr cyflym iawn, a hwnnw yn cael ei dalu drwy system dalebau.

'Yn yr oes yma, mae'n angenrheidiol'

Yn ôl un o'r aelodau, Stephen Pugh, mae pobl "wedi cael digon" o aros.

"'Dyn ni wedi registro 'nôl ym mis Tachwedd... ma' nhw'n dweud bod pethau yn symud ymlaen ond 'dyn ni wedi clywed hyn dros y blynyddoedd - bod pethau'n mynd i wella - ond does 'na ddim byd yn digwydd.

"Y neges i Openreach ydy, yn yr oes yma, mae o'n angenrheidiol.

"Dydy o ddim yn rhywbeth 'dyn ni'n gallu gwneud heb ac mae'n amser dwi'n meddwl… mae pawb yn y pentref wedi cael digon, mae isio rhywbeth symud ymlaen yn reit sydyn".

Disgrifiad o’r llun,

"Yn yr oes yma, mae o'n angenrheidiol," meddai Stephen Pugh am fand eang cyflym

Dywedodd llefarydd ar ran Cwmni Openreach eu bod nhw'n falch bod cymuned Brithdir am symud ymlaen i'r cam nesaf.

Ychwanegon nhw eu bod am gydweithio gyda'r pentrefwyr i sicrhau cyllid i wireddu'r cynllun a chytuno ar linell amser unwaith y bydd cytundeb yn ei le.

Dywedon nhw fod eu cynllun Partneriaeth Ffeibr Cymunedol wedi bod yn hynod o boblogaidd, ac oherwydd y galw uchel maen nhw wedi gorfod rhoi stop ar gofrestru cynlluniau newydd am y tro hyd nes y byddan nhw wedi clirio'r rhestr aros.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mabon ap Gwynfor AS, dyw'r sefyllfa bresennol sy'n wynebu'r gymuned wledig "ddim yn ddigon da"

Yn ôl Mabon ab Gwynfor, sy'n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd, mae angen mwy o gystadleuaeth yn y cynllun i ddarparu band eang cyflym iawn i gefn gwlad.

"Dw i'n ofni ar yr un llaw bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hwyau i gyd yn yr un fasged sy'n rhoi'r cytundeb cyfan i Openreach, ac mae pawb yn eu dwylo nhw.

"Felly, mae angen edrych ar hynny eto a sicrhau bod 'na gystadleuaeth yn y farchnad yma a thrio sicrhau bod cymunedau yn medru dod ynghyd a gwneud o eu hunain.

"Mae'n amlwg bod y sefyllfa bresennol ddim wedi bod yn ddigon da," dywedodd.

Dywed Openreach bod modd i gymunedau sydd heb gofrestru gyda'r cynllun eto i wneud hynny ar eu safle.

Yn y cyfamser, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n cysylltu gyda thrigolion Brithdir yn y dyddiau nesaf i drafod y camau nesaf gyda'r gobaith y byddan nhw'n gallu mwynhau'r cysylltiad band eang cyflymaf yn Ewrop yn fuan.ad.

Pynciau cysylltiedig