Paratoadau olaf cyn agor canolfan hanes Bryn y Beili

  • Cyhoeddwyd
Y ganolfan

Mae'r paratoadau munud olaf yn cael eu gwneud ar gyfer agoriad swyddogol canolfan newydd i ddehongli hanes Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug.

Arferai Castell Yr Wyddgrug sefyll ar y safle, ac mae cerrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1923 yna o hyd.

Am flynyddoedd, roedd Clwb Bowlio Yr Wyddgrug yn chwarae ger safle'r hen gastell fydd nawr yn gartref i Ganolfan Bryn y Beili.

Fel rhan o'r brosiect £1.8m, mae mynedfeydd newydd wedi eu creu i'w gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad i'r safle ble codwyd castell gan y Normaniaid bron i 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

Eira Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanes diddorol i'r safle, medd Eira Hughes, cadeirydd Ffrindiau Bryn y Beili

Eira Hughes ydy Cadeirydd Grŵp Ffrindiau Bryn y Beili, a dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'r bryn yma ers diwedd yr Oes Iâ, ond fe ddatblygwyd o yn gastell gan y Normaniaid.

"Cipiwyd hwnnw gan y Cymry sawl gwaith wedyn - roedd tywysogion Cymreig yn berchen arno. Mae o'n bwysig achos roedd o'n gastell go fawr.

"'Dyn ni'n gwybod erbyn hyn bod o wedi bod yn gastell cerrig nid yn unig castell pren."

Castell
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r sut yr oedd yn safle'n arfer edrych

Ychwanegodd fod sawl peth wedi dod i'r wyneb, "gan gynnwys cyrff yn ddiweddar, ac mae rheini yn cael eu dadansoddi gan Brifysgol Durham ar y funud".

Yn y ganolfan wrth droed y safle, mae yna bob math o wybodaeth am hanes Bryn y Beili. Cafodd yr adeilad ei addasu efo arian nawdd o'r loteri genedlaethol.

'Gymaint o hanes yma'

Haydn Jones

Haydn Jones ydy dirprwy faer Cyngor Tref Yr Wyddgrug, ac mae o'n gobeithio y bydd pobl yn dod o bell ac agos i ymweld a dysgu mwy am safle Bryn y Beili.

Dywedodd wrth Cymru Fyw fod y ganolfan yn "le ffantastig i bobl ddod yma".

Ychwanegodd: "'Dyn ni fel Cyngor Tref Yr Wyddgrug yn meddwl bod o yn mynd i fod yn dda i blant yr ysgolion i ddysgu be' sydd wedi bod yma yn y gorffennol.

Ger hen safle'r castell

"'Dyn ni isio bobl ddod i mewn i'r Wyddgrug. Mae 'na gymaint o hanes yma.

"Dydy pobl ddim yn sylweddoli ffasiwn hanes sydd yn Yr Wyddgrug, yn mynd yn ôl at Daniel Owen ac yn enwedig rŵan bod Bryn y Beili efo gymaint o hanes i ddysgu i bawb."

Y disgwyl ydy y bydd y ganolfan yn agor yn swyddogol ddechrau Ebrill.

Cerrig yr orsedd
Disgrifiad o’r llun,

Cerrig yr Orsedd ar safle Bryn y Beili