Pontypridd: Dyn wedi cael anaf 'parhaol' wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
prif stryd PontypriddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar brif stryd Pontypridd ddydd Sadwrn

Mae dyn wedi cael anaf "sylweddol a pharhaol" wedi ymosodiad ym Mhontypridd nos Sadwrn.

Dywed Heddlu De Cymru bod torf o bobl wedi ymgasglu ar y pryd o flaen bwyty Food 4 You ar y brif stryd toc wedi hanner nos.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau yn parhau.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion.

Pynciau cysylltiedig