Olew o orsaf Dŵr Cymru wedi llygru Afon Cefni ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae tanwydd wedi achosi llygredd i Afon Cefni ar Ynys Môn wedi i olew ollwng o danc ar un o orsafoedd pwmpio Dŵr Cymru.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod rhwystrau wedi eu gosod ar yr afon i atal y llygredd olew rhag lledaenu ymhellach.
Daeth y llygredd i'r golwg yn is i lawr yr afon o Stad Ddiwydiannol Llangefni ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Dywed CNC nad oedd y llygredd wedi effeithio ar warchodfa'r RSPB yng Nghors Ddyga gerllaw.
Roedd arogl llygredd olew a disel ger y safle, lle mae'r afon yn llifo heibio llwybr Lôn Las Cefni.
Roedd sglein yr olew ar y dŵr wedi diflannu erbyn cyrraedd pontydd yr A5 a'r A55, meddai llefarydd CNC.
Mae disgwyl diweddariad gan Dŵr Cymru ynglŷn â'r llygredd ar y tir o dan yr orsaf bwmpio.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa yng ngwarchodfa Cors Ddyga, ond nad ydynt wedi gweld unrhyw effaith ar fywyd gwyllt hyd yma.
'Wedi ei ynysu'n syth'
Mewn datganiad dywedodd Dŵr Cymru: "Cawsom ein rhybuddio am lygredd yn Afon Cefni yr wythnos ddiwethaf a chafodd tîm ei anfon yn syth i'n gorsaf bwmpio carthion yn Llangefni i archwilio.
"Cafodd gollyngiad tanwydd o un o'n generaduron trydan ar y safle ei ddarganfod, ei ynysu'n syth, a'i gadw o fewn y safle heb unrhyw ffordd amlwg o ddianc i mewn i'r afon.
"Cefnogwyd hyn gyda mesurau i leihau'r effaith bosib ar yr afon a'r amgylchedd gerllaw, ac aethom ati i lanhau'r safle yn drwyadl."
Ychwanegodd eu bod yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, ac y byddai tîm yn dal i gadw golwg ar y safle nes i'r mater gael ei ddatrys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019