Wcráin: Athrawes 'yn lwcus' o gael ffoi i Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 26 oed o Wcráin yn dweud ei bod "yn lwcus" o fedru ffoi a chael lloches yng Nghymru.
Lai na thair wythnos yn ôl mi oedd Oleksandra, 26, yn athrawes Saesneg yn Wcráin, ond erbyn hyn mae'n ffoadur sy'n byw ym Mryn-teg, Ynys Môn.
Fe gymrodd bedwar diwrnod iddi wneud y daith o ddinas Zaporizhzhia, yn ne-ddwyrain Wcráin i ogledd Cymru lle mae hi bellach yn byw gyda'i theulu.
Ond, mae'n dweud ei bod yn poeni am ei mam a'i nain sydd yn dal i wynebu sgil effeithiau'r rhyfel, gyda nwyddau a chyflenwadau'n prinhau.
Wrth i densiynau ddatblygu yn y rhanbarth ar ddechrau mis Chwefror, fe benderfynodd Oleksandra wneud cais am fisa i'r Deyrnas Unedig.
Pan ddechreuodd y brwydro, fe benderfynodd adael gydag ambell fag ar ei chefn am Fryn-teg, Ynys Môn at ei theulu yno.
"Mi oedd o'n anodd iawn i mi am nad oeddwn i eisiau gadael fy nheulu," dywedodd.
"Ond fe wnaethon nhw fy annog i, fe ddywedon nhw, os nad chdi, pwy all?
"Roedden nhw am i mi adael Wcráin, a dyna sut nes i ddod fan hyn.
"Mae rhaid i mi ddweud, mi o'n i'n lwcus, mi nes i ffoi, ond rŵan mae'n wallgof yno, ond dwi ddim am gwyno."
Mae Oleksandra bellach yn byw gyda Gwenda a John Thompson ym Mryn-teg, ger Benllech, ers ychydig yn llai na phythefnos.
Fe briododd mab Gwenda a John fodryb Oleksandra wyth mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae'r teulu wedi cefnogi eu perthnasau yn Wcráin wrth i densiynau gynyddu.
"Doedden ni ddim yn gwybod lle'r oedd Oleksandra, 'mond bod hi ar y ffordd at y border gyda Poland a doedd neb yn gallu cael gafael arni," meddai Gwenda.
"Mi oedd hi'n boenus ofnadwy i bawb gan nad oedden ni'n gwybod be' oedd hi'n wynebu ar y ffordd.
"Ond fe aeth hi i Lviv, yna i Kraków ac yna fflio draw i Fanceinion. Roedd hi wedi bod ar y lôn ers pedwar diwrnod."
Mae'r teulu o Fôn yn dweud mai croesawu Oleksandra oedd y peth naturiol i wneud.
"Mi yda ni'n falch ein bod ni'n gallu helpu a gwneud rhyw ran i'r teulu a 'sa ni'n gwneud o gyd eto," dywedodd Gwenda.
"Maen nhw'n ddewr, yn ddychrynllyd o ddewr."
'Pam fod hyn yn digwydd?'
Wrth edrych yn ôl ar ei thaith i Gymru, fe esboniodd Oleksandra ei bod wedi drysu ac wedi gorflino.
"Roedd o'n drist, yn rhwystredig oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod pam. Pam ddylwn i adael a pham bod hyn yn digwydd?" eglurodd.
"Ges i gyfnodau o fethu deall a meddwl bron, 'ai breuddwyd oedd hyn?'"
Mae Oleksandra bellach yn treulio ei dyddiau yn y caeau ym Mryn-teg yn edrych ar ôl y ceffylau gyda Gwenda a John, ac yn gwneud ei gorau i gysylltu gyda'i theulu dros alwadau fideo.
"Dwi'n eithriadol o bryderus am fy nheulu," meddai.
"Dwi'n ysu i wneud rhywbeth ond dwi'n teimlo'n ddiymadferth, ond eto fyth, ddim heb obaith."
'Byddwn ni'n sefyll yn gadarn'
Mae Oleksandra'n dweud nad yw hi'n gwybod pryd fydd modd iddi ddychwelyd adref i weld ei theulu a'r hyn sy'n weddill o'i dinas enedigol.
"Dwi ddim yn gwybod a fydd o'n cael ei fomio neu a fydd rhywbeth yn digwydd i mam a nain," meddai.
"Alla i ddim pitïo fy hun, mae gennym ni ein byddin a dwi'n coelio yn ein pobl. Mi fyddwn ni'n sefyll yn gadarn ac yn fuddugol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022